Oedi posib cyn dod â rheolau newydd i rym yngl?n a gwaharddiad llwyr ar gynnal profion ar anifeiliaid am golur
Mae ASE Plaid Cymru, Jill Evans, yn dodi pwysau ar y Comisiwn Ewropeaidd i orfodi gwaharddiad llwyr ar gynanl profion ar anifeiliaid am golur ar draws Ewrop.
Cafwyd gwaharddiad ar bron i bob math o brofion ar anifeiliaid ar gyfer nwyddau coluro ers 2009, ond caniatawyd tri math i barhau hyd at 2013, ar gyfer mewnforion i Ewrop. Bydd caniatad i’r rhain barhau wedi’r llinell derfyn oherwydd na weithredwyd dulliau amgen oedd ar gael gan y diwydiant coluro.
Dywedodd ASE Plaid Cymru,
"Erbyn hyn, mae’n ymddangod yn bosib bydd newid ar dro i gyfraith yr Undeb EWropeaidd yngl?n â defnyddiau coluro ac mae hyn yn golygu y bydd cynnal arbrofion ar anifeiliaid mewn perthynas â chynnyrch a gafodd ei fewnforio yn parhau ".
"Mae profi ar anifeiliaid yn greulon a diangen. Ddyliwn ni ddim fod yn gwobrwyo’r diwydiant coluro gydag estyniad am iddyn nhw fethu â efnyddio dulliau amgen diogel sydd yn bodoli eisoes pan gawson nhw fwy na digon o amser a chyfle i’w mabwysiadu. Mae pobl yng Nghymru ac ar draws Ewrop wedi danfon sawl neges gryf i ddatgan nad ydyn nhw am i anifeiliaid gael eu defnyddio ar gyfer profi deunyddiau coluro. Rwy’n derbyn llythyrau rheolaidd gan etholwyr sydd yn gresynnu bod yr arfer yn dal i barhau."
"Rwyf wedi cwrdd â’r Undeb Prydeinig Dros Wahardd Bywddyranu (BUAV) a byddwn yn cydweithio yn ysto y misoedd nesaf i geisio sicrhau y daw yr arfer hen ffasiwn yma i ben. Mae BUAV wei cynhyrchu ogfen dechnegol manwl sydd yn dangos bod dulliau amgen i brofi ar anifeiliaid eisoes yn bodoli. Cyfrifoldeb y diwydiant coluro yw hi nawr i sicrhau bod 100% o deunydiau coluro yn cael eu profi mewn modd diogel sydd ddim yn peri dioddefaint diangen gan anifeiliad."
“Rwyf wedi ysgrifennu at Gomisiwn Ewrop i fynegi fy mhryderon cyn iddyn nhw gyhoeddi eu hargymhellion yn hwyrach y mis hwn. Byddwn yn annog i bobl eraill wneud yr un peth.”
Diwedd