• Hafan
  • Amdanai
  • Y Wasg
  • Areithiau
  • Lluniau
  • Ffilmiau
  • Dolenni i wefannau eraill
  • Cwestiynau Cyffredin
  • ASE Plaid Cymru yn estyn croeso i reolau Undeb Ewropeaidd newydd ar effeithlonrwydd ynni ac yn annog Llywodraeth Cymru i wneud mwy
    Mehefin 14eg 2012

    Mae Llywydd Plaid Cymru, Jill Evans ASE wedi croesawu cytundeb ar effeithlonrwydd ynni ac arbedion yn dilyn trafodaethau neithiwr yn Senedd Ewrop. Disgrifiodd y cytundeb fel un sy’n hwb i’r economi ac amcanion yni’r Undeb Ewropeaidd, er i’r targedau gael eu dyfrhau gan lywodraethau aelod wladwriaethau. Dywedodd hithau y dylai llywodraeth Cymru warae llawer mwy o ran wrth geisio cwrdd â thargedau lleihau’r defnydd o ynni gan 20% erbyn 2020.

    Dywedodd Jill Evans,

    "Bydd y cytundeb yma’n rhoi hwb i economi Ewrop ac yn ein helpu i gyflawni ein hamcanion diogelwch ynni a hinsawdd. “Fe allai Llywodraeth Cymru wneud llawer mwy i gwrdd â thargedau ynni. Er enghraifft, mae Plaid Cymru wedi galw am estyniad o’r cynllun Arbed i insiwleiddio tai. Mae 25,000 o dai eisoes wedi cael eu gwella ond dylid helaethu hyn i bob cartref yng Nghymru. Mae nid yn unig yn arbed ynni ond mae’n golygu biliau rhatach ar gyfer preswylwr a mwy o waith i’r sector adeiladu sector. ”

    Parhaodd Ms Evans,

    "Mater o synwyr cyffredin economaidd yw gwireddu targed arbed ynni’r Undeb Ewropeaidd, ac fe fyddai’n creu miloedd o swyddi ar draws Cymru ac yn dod â biliau ynni i lawr.

    “Mae prisiau ynni wedi bod yn codi’n gyson ond fe allwn wrthwneud hynny drwy effeithlonrwydd ynni uchelgeisiol. Byddai’n arwain at fuddion mawr i ni.

    "Bydd y gyfraith newydd yn sicrhau arbedion ynni cadarn. Bydd yn rhaid i aelod wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd amlinellu cynllun trywydd ar gyfer cyflawni arbedion ynni o 80% yn y sector adeiladu erbyn 2050. Bydd rhaid i gwmniau ynni gyflenwi 1.5% mewn arbedion blynyddol ar draws pob sector defnydd-terfynol. Mae gwell gwybodaeth i ddefnyddwyr, fel darllenwyr deallus (smart meters) hefyd wedi cael eu cynwys."

    Diwedd.

    Nodiadau

    Daeth Senedd a Chyngor Ewrop i gytundeb ar ddarlleniad draft cytundeb o’r Cyfarwyddyd Effeithlonrwydd Ynni arfaethedig. Mae’r cytundeb deddfwriaethol yn barod i gael ei gymeradwyo gan Senedd Ewrop yn ei chyfanrwydd a chan lywodraethau’r Undeb Ewropeaidd yn y Cyngor.

    Photo: Jill Evans