• Hafan
  • Amdanai
  • Y Wasg
  • Areithiau
  • Lluniau
  • Ffilmiau
  • Dolenni i wefannau eraill
  • Cwestiynau Cyffredin
  • Aelodau Seneddol Ewropeaidd yn pleidleisio i’r Undeb Ewropeaidd anelu at darged gostyngiad o 30% mewn nwyon t? gwydr erbyn 2020
    Mai 25ain 2011

    Mae Jill Evans ASE wedi pleidleisio am gynnyddu’r targed i ostwng nwyon t? gwydr gan 30% erbyn 2020. Cafodd yr adroddiad, a gyflwynwyd gan aelodau seneddol Ewropeaidd y Gwyrddion/EFA, ei fabwysiadu gan bwyllgor amgylchedd Senedd Ewrop.

    Yn dilyn y bleidlais, dywedodd Jill Evans ASE,

    "Newid hinsawdd yw’r bygythiad mwyaf sy’n wynebu ein planed heddiw. Mae’r bleidlais hon yn danfon signal amserol a phwysig i lywodraethau Ewropeaidd bod codi’r targed nid yn unig yn hanfodol os ydym am fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, ond byddai hefyd yn rhoi hwb i’r economi.

    “Mae ymchwil yn profi fod targed presennol yr Undeb Ewropeaidd o ostyngiad o 20% mewn allyriannau erbyn 2020 wedi darfod yn llwyr. Byddai camu fyny i darged o ostyngiad o 30% mewn allyriannau yn creu miliynau o swyddi ychwanegol.

    “Mae Cynulliad Cymru eisoes wedi cytuno i leihau allyriannau gan 40% erbyn 2020 a byddaf innau a’r Blaid yn rhoi pwysau ychwanegol ar yr awdurdodau i sicrhau bod y penderfyniad yn golygu cymryd camau ystyrlon. Gobeithiaf bydd Comisiwn Newid Hinsawdd Cymru yn chwarae rhan bwysig yn hwn.

    "Mae targed isel yr Undeb Ewropeaidd yn faen tramgwydd yn wyneb yr ymdrechion rhyngwladol i fynd i’r afael â newid hinsawdd. Mae nifer o wledydd wedi ymrwymo i anelu at weithredoedd a thargedau mwy uchelgeisiol. Gyda tharged uwch, gall yr Undeb Ewropeaidd fod yn arweinydd unwaith eto mewn diplomyddiaeth hinsawdd rhyngwladol.”

    Diwedd.

    Ffoto: Jill Evans