• Hafan
  • Amdanai
  • Y wasg
  • Areithiau
  • Lluniau
  • Ffilmiau
  • Dolenni i wefannau eraill
  • Jill yn ymuno â’r Gwyrddion Hollfydol
    Mai 19eg 2010

    Bu ASE Plaid Cymru, Jill Evans yn siarad yn nigwyddiad “Global Greenies” Ysgol Gynradd Gatholig St. Joseph gyda 7 ysgol o 6 gwlad Ewropeaidd. Roedd y thema eleni yn ymwneud â buddion tyfu cynnyrch organig, bwyta’n iach a chymryd ymarfer corff rheolaidd yn ogystal ag ailgylchu. Cymerodd gynrychiolwyr o Iwerddon, Lloegr, Ffrainc, Groeg a Hwngari ran yn y digwyddiad.

    Dywedodd Jill Evans ASE:

    “Roedd y digwyddiad Global Greenies yn gyfle ardderchog i ddisgyblion ddysgu am fuddion ffordd o fyw gwyrdd ac iachus. Roedd eu hangerdd dros ailgylchu ac amddiffyn yr amgylchedd yn gyffrous iawn. Mae’n galonogol iawn i weld bod disgyblion yn cael eu gwneud yn ymwybodol o newid hinsawdd ar oedran ifanc iawn. Nhw fydd y rhai fydd yn teimlo’r effeithiau a fydd yn gorfod mynd i’r afael â’r problemau a grëwyd gan genedlaethau blaenorol."

    Photo: Mae Jill Evans ASE yn annerch disgyblion yn nigwyddiad y Global Greenies.

    Mae Jill Evans ASE yn annerch disgyblion yn nigwyddiad y Global Greenies.

    Yn ogystal â’r neges amgylcheddol, pwysleisiodd y digwyddiad bwysigrwydd cyfeillgarwch ar draws ffiniau.

    Ychwanegodd Maurice Flynn, Pennaeth Ysgol St. Joseph:

    "Cafodd y plant amser ardderchog yn ystod yr wythnos o ddigwyddiadau y buom yn eu cynnal, ac fe lwyddom i rannu syniadau a phrofiadau. Roedd cael cwrdd â Ms. Evans yn gyfle iddyn nhw gael gwell dealltwriaeth o rôl Cymru yn Ewrop a sut mae eu cynrychiolwyr yn ymwneud â materion amgylcheddol. Roeddwn hefyd yn falch eu bod nhw wedi dysgu buddion ffordd o fyw iachus a diet. Rwy’n sicr bydd y Digwyddiad Global Greenies yn mynd o nerth i nerth."

    Diwedd.

    Nodiadau

    1. Lleolir Ysgol Gynradd Gatholig St. Joseph' yn Sully Road, Penarth.

    2. Ysgol St. Joseph yw’r ysgol sydd yn cydlynu “Global Greenies”, sef project sydd yn canolbwyntio ar arddio organig, ailgylchu a ffordd o fyw iachus. Mae gan y project chwe ysgol sydd yn bartneriaid o Loegr, Ffrainc, Groeg, Hwngari, a dau o Iwerddon, ac fe’i ariannir gan fenter Comenius yr Undeb Ewropeaidd sydd yn rhan o’r Rhaglen Addysg Gydol Oes (2007 - 2013).

    3. Mae rhaglen Comenius yn canolbwyntio ar gyfnod cyntaf addysg, o’r blynyddoedd cyn-ysgol ac ysgol gynradd i ysgol uwchradd. Mae’n berthnasol i bob aelod o’r gymuned addysg: disgyblion, athrawon, awdurdodau lleol, cymdeithasau rhieni, sefydliadau anllywodraethol, sefydliadau hyfforddi athrawon, prifysgolion a holl staff addysgol eraill.

    Mae Comenius yn ceisio datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth ymhlith pobl ifanc a staff addysgol ynglyn ag amrywiaeth diwylliannau, ieithoedd a gwerthoedd Ewrop. Mae’n helpu pobl ifanc i ennill sgiliau a chymwyseddau sylfaenol bywyd sydd yn angenrheidiol ar gyfer eu datblygiad personol, ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol ac ar gyfer dinasyddiaeth weithgar.

    Diwedd.

    Ffoto: Jill Evans