Ar ddiwrnod agoriadol Cyfarfod Brig y Cenhedloedd Unedig ar newid hinsawdd, mae ASE Plaid Cymru, Jill Evans, yn gofyn i bobl Cymru i gofrestri eu cefnogaeth dros gytundeb gorfodol i dorri allyriannau gan o leiaf 40%.
Mae’r ymgyrchydd amgylcheddol ers amser maith wedi lansio cyfleuster pleidlais destun cyhoeddus sydd yn caniatáu i unigolion ymateb i’r datganiad, “Rwyf eisiau cytundeb gorfodol i dorri allyriannau gan o leiaf 40% erbyn 2020.”
Dywedodd Jill Evans ASE,
“Mae pedwardeg y cant yn darged hanfodol os ydym am rwystro cynnydd mewn tymheredd o 2 radd. Mae yna gefnogaeth drawsbleidiol yn bodoli yn y Cynulliad Cenedlaethol ac mae Llywodraeth Cymru’n Un wedi ymrwymo eisoes i leihau ein hallyriannau gan 3% ar ôl 2011.
“Mae Comisiwn Newid Hinsawdd Cymru wedi bod yn edrych ar opsiynau uwch er mwyn gwneud toriadau a dichonolrwydd gweithredu hynny yn y dyfodol. Dyna pam ddylai Cymru gael ei lais ei hun yn nhrafodaethau Copenhagen fel rhan o ddirprwyaeth y DU.”
“Rhaid i ni gadw’r pwysau ar arweinwyr y byd a gall pobl Cymru helpu arwain y ffordd yn hyn drwy ddanfon neges destun “CUT A” i 07624 808182. Byddaf yn mynd i Copenhagen yr wythnos nesaf a po fwyaf o bobl fydd cofrestri eu pleidlais, y mwyaf gallaf ei ddefnyddio i lobio.”
Diwedd.
Nodiadau
1. Dywed pleidlais destun Jill, “Rwy eisiau cytundeb gorfodol i dorri allyriannau gan o leiaf 40% erbyn 2020?" Os ydych yn cytuno danfonwch neges destun, “CUT A” i 07624 808182. Os ydych yn anghytuno tecstiwch, “CUT B” i’r un rhif. Bydd pris rhwydwaith safonol yn gymwys.
2. Dilynwch gynnydd Jill yn Copenhagen drwy gyfrwng ei sianelu ar-lein amrywiol:
Gwefan: www.jillevans.net
Blog: www.cymrucopenhagen.wordpress.com
You Tube: www.youtube.com/jillevansasemep
Twitter: www.twitter.com/jillevansmep
Diwedd.