• Hafan
  • Amdanai
  • Y wasg
  • Areithiau
  • Lluniau
  • Ffilmiau
  • Dolenni i wefannau eraill
  • Cymru'n Herio Ewrop ar Newid Hinsawdd
    Hydref 14eg 2009

    Yr wythnos hon, derbyniodd Jill Evans, ASE Plaid Cymru, ymgyrchwyr hinsawdd o Gymru yn westeion iddi ym Mrwsel. Daethant i annog gwleidyddion Ewropeaidd i ymddwyn gyda phenderfyniad o flaen Cynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig yn Copenhagen yn hwyrach eleni.

    Cafodd y grwp eu cyffro cymaint ar ôl gweld y ffilm 'The Age of Stupid' yn eu sinema leol yn Sir Benfro, nes iddyn nhw benderfynu gweithredu. Cyfarfu Jill Evans â’r ymgyrchwyr ac fe’u gwahoddodd i Frwsel i roi eu hachos yn uniongyrchol i wleidyddion a gwneuthurwyr polisi yn sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd. Eu gobaith yw y gall syniadau a wnaed yng Nghymru gael eu rhoi ar waith er mwyn helpu ymladd newid hinsawdd.

    Llun: Jill Evans ASE gyda'r ymgyrchwyr newid hinsawdd ym Mrwsel

    Jill Evans ASE gyda'r ymgyrchwyr newid hinsawdd ym Mrwsel

    Ymhlith y grwp o Gymru a ddaeth i Frwsel oedd Vicky Moller, rheolwr Ecotour, Sue Hutchinson, cynghorydd tref, a Siobhan Ashe o Drefdraeth, Sir Benfro, James Cass o’r Ganolfan Technoleg Amgen ym Machynlleth, Jan Cliff o Sundance Renewables, Sir Gaerfyrddin, ac Aled Vaughan Owen o Fenter Cwm Gwendraeth.

    Dywedodd ASE Plaid Cymru, Jill Evans:

    "Newid hinsawdd yw’r bygythiad mwyaf a’r her fwyaf sy’n wynebu ein planed heddiw. Roeddwn i eisiau i wneuthurwyr polisi Ewrop i wrando’n uniongyrchol ar gynrychiolwyr o Gymru sydd yn mynnu eu bod yn cymryd camau pendant. Tra bod nifer o lywodraethau yn dod o hyd i nifer o resymau dros beidio â gweithredu, mae Llywodraeth Cymru’n Un wedi cymryd camau radical, fel ymrwymo i gwtogi allyriannau nwy ty gwydr, ond mae llawer iawn i’w neud o hyd..

    "Gall Cymru arwain yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd. Rydym eisoes wedi cymryd camau ymarferol i leihau ein hôl troed carbon ac mae’r ymgyrchwyr yma o ar draws y wlad wedi bod yn dadlau’r achos dros gwtogi allyriannau byd-eang yn uniongyrchol i’r tîm fydd yn negodi yn Copenhagen yn hwyrach eleni."

    Eglurodd un o’r ymgyrchwyr, Siobhan Ashe:

    “Rhieni ifanc ydym ni gan fwyaf, sydd yn teimlo’n angerddol ynglyn â newid hinsawdd, ac yn awyddus i ddylanwadu ar ein harweinwyr cyn ei fod yn rhy hwyr. Efallai nad gwyddonwyr ydym ni ond mae gyda ni synnwyr cyffredin, a dyna’r cyfan mae’n cymryd i ddod â newid hinsawdd beryglus i ben. Ym Mrwsel caiff safleoedd negodi'r DU a Chymru eu penderfynu, felly i Frwsel rydym am fynd”.

    Ychwanegodd trefnydd y grwp, Vicky Moller:

    "Dydyn ni ddim yn mynd i gael ein dallu gan acronymau. Mae gyda ni ymchwilwyr amgylcheddol yn ein grwp, ond y gwirionedd noeth, syml fyddwn ni’n dod gyda ni i’r ford.”

    Ym Mrwsel, cyfarfu’r grwp ag amrywiaeth o Aelodau Seneddol Ewropeaidd, yn ogystal â swyddogion y Comisiwn Ewropeaidd sydd yn gweithio ar baratoadau ar gyfer y Gynhadledd Hinsawdd bwysig yn Copenhagen ym mis Rhagfyr.

    Diwedd.

    Ffoto: Jill Evans