• Hafan
  • Amdanai
  • Y wasg
  • Areithiau
  • Lluniau
  • Ffilmiau
  • Dolenni i wefannau eraill
  • A fydd y Torïaid yn gweld y golau?
    Medi 4ydd 2009

    Dywedodd ASE Plaid Cymru, Jill Evans, er gwaetha’r arbedion economaidd ac amgylcheddol clir a geir drwy newid i fylbiau golau arbed ynni, cafodd ei synnu i glywed yr Aelod Seneddol Ewropeaidd Torïaidd, Kay Swinburne, yn dweud fod ganddi ‘broblemau’ gyda gwahardd y bylbiau mwyaf aneffeithlon, gan honni ei fod yn ‘drychineb amgylcheddol’.

    Dywedodd Jill Evans, sef ASE mwyaf profiadol Cymru:

    “Roedd y sylwadau yn peri syndod, nid yn unig oherwydd yr holl dystiolaeth wyddonol, ond hefyd oherwydd bod ei phlaid ei hun wedi cymeradwyo rhoi bylbiau arbed ynni i gartrefi yng Nghymru yn eu Cynhadledd yn 2007. Ydy'r Blaid Geidwadol yng Nghymru wedi newid ei meddwl?

    "Mae'r rhan fwyaf o bobl - 85% yn y pol piniwn diweddaraf - yn dweud y byddant yn newid i fylbiau arbed ynni, fydd yn helpu ymladd newid hinsawdd, ac yn arbed arian ar yr un pryd. Mae pobl yng Nghymru yn gofyn i fi beth gallan nhw ei wneud adre. Mae hyn yn fesur syml sydd yn cael effaith enfawr. Bydd yn gostwng defnydd trydan mewn cartrefi o ryw 15%. Bydd hyn yn golygu biliau rhatach hefyd.

    “Tybed beth fydd ymateb arweinydd grwp y Torïaid yn y Cynulliad pan gaiff e wybod fod ei ASE wedi ymuno ag aelodau seneddol San Steffan ei blaid sydd yn creu eu polisïau eu hunain. Gwynias efallai?”

    Diwedd.

    Ffoto: Jill Evans