Talodd ASE Plaid Cymru, Jill Evans, ymweliad ag Antur Waunfawr ar ddydd Gwener yng nghwmni Hywel Williams AS. Mae Antur Waunfawr yn brif fenter gymdeithasol sydd yn rhoi cyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth i bobl ag anawsterau dysgu o fewn eu cymunedau eu hunain.
Yn Bryn Pistyll - Lleoliad safle gwreiddiol Antur yng nghanol Waunfawr. Yn y llun mae: Gill Wyn (Cadeirydd, Antur Waunfawr), Jill Evans ASE, Menna Jones (Prif weithredwr) a Hywel Williams AS.
Yn dilyn cyfarfod â’r Prif Weithredwr Menna Jones, dywedodd Jill:
“Yn ogystal â safle gwreiddiol Bryn Pistyll, fe aethon ni ar daith o amgylch cyfleuster ailgylchu cymunedol a masnachol Caergylchu wedi’i leoli ar ystâd ddiwydiannol Cibyn, Caernarfon a Warws Werdd, y siop gelfi sydd hefyd yn Cibyn.
“Roeddwn yn bles iawn fod Hywel a minnau wedi gallu ymweld er mwyn gweld y cynnydd mawr a wnaed gan Antur Waunfawr yn ystod y 25 mlynedd diwethaf, nid yn unig oherwydd y rhan mae’n chwarae yn y gymuned leol, ond hefyd y cyfraniad a wna i adfywiad yr economi leol.”
Cymerwyd y llun arall yng nghyfleuster ailgylchu cymunedol a masnachol Caergylchu ar Ystâd Diwydiannol Cibyn,
Caernarfon. O’r chwith i’r dde: Hywel Williams AS, Huw Davies (Dirprwy Brif Weithredwr Antur), Steffan Jones
(Prif Swyddog Gwastraff, Cyngor Gwynedd) a Jill Evans ASE.
Diwedd.