Mae ASE Plaid Cymru, Jill Evans, yn obeithiol o weld cynnydd yn y dyfodol agos ynglyn â deiseb gan wrthwynebwyr i safle tirlenwi Hafod ger Wrecsam a ddanfonwyd at Senedd Ewrop.
Bu Ms Evans yn cefnogi ymgyrchwyr yn erbyn y safle tirlenwi.
Penderfynwyd fod y ddeiseb yn haeddu ymchwiliad pellach wedi i achosion posib o dorri cyfraith yr Undeb Ewropeaidd gael eu nodi. Gofynnodd Pwyllgor Deisebau’r Undeb Ewropeaidd i’r Comisiwn Ewropeaidd gynnal ymchwiliad a bu’r broses hon yn mynd yn ei flaen ers y misoedd diwethaf.
Roedd yr ASE Plaid Cymru i fod i gwrdd â Phrif Swyddogion yng Nghomisiwn Ewrop yr Wythnos hin er mwyn cael diweddariad o’r broses, ond fe ganslwyd y cyfarfod oherwydd nad yw awdurdodau’r DU wedi ymateb eto.
Wrth siarad o Frwsel, dywedodd Jill Evans ASE:
"Mae Comisiwn Ewrop wedi cynnal ymchwiliad pellach i mewn i’r achosion posib o dor-cyfraith yr Undeb Ewropeaidd mewn perthynas â safle tirlenwi Hafod. Rwy’n falch i weld cynnydd a gobeithiaf gellir dilyn y mater hwn i ben cyn gynted a bo modd.
"Rydyn ni nawr yn disgwyl ymateb gan lywodraeth y DU ac mae gofyn cyfreithiol arnyn nhw i ymateb cyn Rhagfyr 16. Byddwn wedyn yn gallu gweld pa fesurau sydd angen i’w cymryd.
"Mae pwysau gwaith y pwyllgor wedi golygu ein bod wedi gorfod disgwyl amser maith am unrhyw gynnydd, ond fe hoffwn ddiolch i’r ymgyrchwyr lleol am eu hamynedd a gobeithiaf y gellir datrys y rhain cyn bo hir."
Diwedd.