• Hafan
  • Amdanai
  • Y wasg
  • Areithiau
  • Lluniau
  • Ffilmiau
  • Dolenni i wefannau eraill
  • Croeso Gofalus i Gynlluniau ar gyfer Torri Coedydd yn Anghyfreithlon
    Hydref 22ain 2008

    Mae cynigion gan Gomisiwn Ewrop i frwydro yn erbyn y fasnach anghyfreithlon mewn torri coed anghyfreithlon ac i fynd i’r afael â datgoedwigo wedi derbyn croeso gwyliadwrus gan ASE Plaid Cymru Jill Evans.

    Ond rhybuddiodd yr ASE nad yw’r cynllun a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y Comisiwn yn mynd yn ddigon pell a galwodd am orfodaeth lymach.

    Amcangyfrifir bod tua un ymhob pump o fewnforion coed i’r Undeb Ewropeaidd yn dod o ffynonellau a allai fod yn anghyfreithlon. Daeth nifer o bobl ar draws Cymru i gyswllt â Ms Evans yr wythnos hon yn gofyn am ei chefnogaeth ac i helpu i roi mwy o rym i’r cynlluniau.

    Dywedodd yr Aelod Seneddol Ewropeaidd i Blaid Cymru:

    "Mae’n amcangyfrif bod tua ugain y cant o goed a fewnforiwyd yn dod o ffynonellau anghyfreithlon. Gwyddom fod ymladd yn erbyn y fasnach anghyfreithlon mewn torri coed yn hanfodol yn yr ymgyrch yn erbyn newid hinsawdd ac rwy’n croesawi’r cynigion yma gan Gomisiwn Ewrop.

    "Ond dydyn nhw ddim yn agos at fod yn ddigon eofn ac fe fyddaf yn ymladd er mwyn eu cryfhau. Yn hytrach na gosod rheolau clir ynglyn â’r hyn sy’n gyfreithlon a’r hyn sydd ddim, mae’n ymddangos bod y comisiwn yn hapus i gymryd gair y mewnforwyr a’r allforwyr.

    "Os ydym ni am wneud cynnydd iawn wrth ymladd torri coed anghyfreithlon a datgoedwigo mae angen i gymryd camau llawer mwy cadarn.

    "Daeth nifer o etholwyr i gyswllt â fi gan ddangos pryder mawr ynglyn â’r mater yma. Gallaf eu sicrhau y byddaf yn gwthio’n galed am weithredu cryfach, ac yn enwedig i sicrhau rheolau sydd wedi eu diffinio a’u plismona’n eglur, fydd yn gwarantu mai dim ond coed o ffynonellau cynaliadwy gaiff ei fewnforio i Ewrop yn y dyfodol."

    Diwedd.

    Ffoto: Jill Evans