• Hafan
  • Amdanai
  • Y wasg
  • Areithiau
  • Lluniau
  • Ffilmiau
  • Dolenni i wefannau eraill
  • Cyfle wedi’i wastraffu - safbwynt ASE Plaid Cymru ar y rheolau newydd
    Mehefin 18fed 2008

    Mae ASE Plaid Cymru Jill Evans wedi beirniadu cytundeb rhwng llywodraethau Ewrop a’r Senedd Ewropeaidd sydd wedi gwanhau cyfreithiau newydd ar wastraff.

    Yn wreiddiol, gwnaeth y Senedd safiad cryfach ond fe’i gwrthwynebwyd gan lywodraethau Ewrop. Dyw’r ASE Plaid Cymru ddim yn credu bydd y cytundeb newydd yma yn mynd i’r afael yn effeithiol â’r cynnydd ym mynydd gwastraff Ewrop.

    Cafwyd gwrthwynebiad cryf gan yr ASE i’r weithred o ailddosbarthu llosgyddion gwastraff (gyda rhai safonau effeithlonrwydd wedi’u hychwanegu) o dan adennill ynni yn hytrach na gwaredu gwastraff. Byddai’r newid yma yn gwneud i losgi ymddangos yn amgylcheddol gyfeillgar a’i wneud yn haws i ddenu buddsoddiad. Effaith hyn fyddai tanseilio ailgylchu yn uniongyrchol.

    Roedd gwastraff dinesig yng Nghymru ar gyfer y flwyddyn 2006-07 yn unig, yn gyfrifol am 1.8 miliwn tunnell o wastraff, ond ar draws yr Undeb Ewropeaidd cynhyrchir 1.8 biliwn tunnell o wastraff yn flynyddol. Roedd y ffigur ar gyfer Cymru yn cynrychioli gostyngiad o dri y cant o’r flwyddyn flaenorol ac fe ailgylchwyd neu compostiwyd trideg y cant o hyn.

    Wrth siarad ar ôl y bleidlais, dywedodd yr ASE o Blaid Cymru a oedd wedi arwain y gwrthwynebiad i’r cyfaddawd gwan hyn:

    "Dyma’r cyfle gwreiddiol a wastraffwyd. Rwy wedi f’arswydo bod llywodraethau Ewropeaidd, gan gynnwys y DU, wrth gwrs, wedi gwrthod y cynigion yma oedd eu hangen arnom yn ddirfawr. Mae mynydd gwastraff cynyddol Ewrop yn broblem sydd yn anghynaladwy ac mae angen i ni weithredu nawr i fynd i’r afael â’r broblem. Ond yn lle gostyngiadau gwastraff fyddai’n ein rhwymo’n gyfreithiol, a thargedau gwastraff, yr hyn sydd gyda ni yw targedau sydd heb fod angen eu gorfodi a’r addewid o rai ‘astudiaethau’.

    "Ar yr un pryd caiff llosgi gwastraff ar lefel arbennig o effeithlonrwydd ei ailddosbarthu’n adennill ynni. Mae hyn yn hybu llosgi, sydd yn dechnoleg ddibynnol ar wastraff, sydd yn wrthgynhyrchiol i unrhyw ymdrech i fynd i’r afael â ffynhonnell y mynyddoedd gwastraff a chreu cymdeithas sydd yn ailgylchu.

    "Mae hwn yn fater anferth i Gymru. Mae grwpiau ymgyrchu ar draws y wlad yn protestio ynglyn â safleoedd sydd yn broblem a llosgyddion. Ond pan ddaw’r cyfle i leihau maint y gwastraff fyddwn ni’n ei gynhyrchu a chynyddu’r maint fyddwn ni’n ei ailgylchu, er mwyn ein galluogi i roi’r gorau i daflu gwastraff mewn i dyllau yn y ddaear, dyw’r llywodraethau ddim yn gallu wynebu’r her.

    "Mae ymddygiad llywodraeth Prydain, sydd wedi gwrthwynebu cyfreithiau newydd ar wastraff erioed, yn dangos unwaith eto mai arwynebol iawn yw hygrededd gwyrdd Llafur."

    "Roedd hwn yn gyfle i wneud rhywbeth ynglyn â newid hinsawdd. Byddai polisi Ewropeaidd uchelgeisiol ar wastraff yn gallu lleihau allyriannau CO2 yn fawr, ond collwyd y cyfle oherwydd diffyg ewyllys gwleidyddol."

    Diwedd/Ends

    NODYN:

    Pleidleisiodd Aelodau Senedd Ewrop yn Strasbwrg mewn ail ddarlleniad i gymeradwyo’r cyfaddawd a gafwyd rhwng y Senedd a llywodraethau’r Undeb Ewropeaidd, gan wrthod gwelliannau a wnaed gan Ms Evans i gyflwyno targedau gorfodol ar gyfer lleihau gwastraff ac i beidio a llosgi.

    Mae Jill Evans ASE yn Ddirprwy Lywydd Plaid Cymru the Party of Wales.

    Ffoto: Jill Evans