Bydd grwp o ymgyrchwyr o Wrecsam yn mynd ar eu ffordd i Frwsel yn gynnar yn ystod mis Ebrill er mwyn gwneud cyflwyniadau i Bwyllgor Deisebau Senedd Ewrop mewn ymgais i rwystro gweithrediadau tirlenwi ar safle Hafod.
Mae’r llun yn dangos ASE Plaid Cymru, Jill Evans, wrth iddi drosglwyddo deiseb Hafod i Marcin Libicki, Cadeirydd Pwyllgor Deisebau Senedd Ewrop
Rhoddodd ASE Plaid Cymru, Jill Evans y ddeiseb i Gadeirydd y Pwyllgor, Marcin Libicki ym Mrwsel (llun wedi amgáu) ym mis Tachwedd 2006, ar ran ymgyrchwyr Grwp Amgylcheddol Hafod. Dywedodd Jill heddiw:
"Mae’r ffaith ein bod wedi cyrraedd y cam nesaf yma yn newyddion da iawn, yn enwedig o gofio bod y Pwyllgor Deisebau wedi wynebu nifer eithriadol o uchel o achosion yn ystod misoedd diweddar. Rhaid rhoi clod mawr i ddyfalbarhad ymgyrchwyr Hafod, ac wrth gwrs, dyma’r bobl sydd yn gorfod byw gyda’r safle tirlenwi yma. Rwy’n gobeithio bydd y ddeiseb hon yn cael yr un llwyddiant a gafodd fy neiseb innau rai blynyddoedd yn ôl oedd yn ymwneud ag achos tebyg yn safle tirlenwi Nantygwyddon ac a fu’n sicr o help i’w gau.
"Wrth i fi gyflwyno deiseb Hafod ym mis Tachwedd 2006, fe wnes i’r sylw bryd hynny mai peth gwallgof oedd hi ein bod ni o hyd yn yr unfed ganrif ar hugain yn trosglwyddo gwastraff am filltiroedd a’i roi mewn tyllau yn y ddaear, er ein bod yn gwybod y bydd yn effeithio ar iechyd pobl a’r amgylchedd. Mae hyn yn atgyfnerthu fy mwriad i weithio yn Senedd Ewrop er mwyn cael rheolau cryfach ar leihau gwastraff, cynyddu ailgylchu a graddol ddiddymu tirlenwi.
"Rwy’n edrych ymlaen at groesawi ymgyrchwyr Hafod i Frwsel ar Ebrill 2."
Pauline Smout yw Cadeirydd Grwp Amgylcheddol Hafod. Dywedodd hi:
"Rydym yn falch iawn fod y Pwyllgor yn mynd i glywed ein cyflwyniadau, a bod nifer o ymgyrchwyr yn mynd i fod yno am y gwrandawiad. Roedd hi’n glir drwy gydol yr amser na fyddai’r broses yn un gyflym, ond er hynny, rydym wedi cyrraedd y pwynt yma ychydig yn gynt na fyddem wedi dyfalu’n flaenorol.
"Nawr mae’n bryd i ni gyfleu ein hachos o fewn yr amser a ganiateir i ni, a gobeithiwn bydd y Pwyllgor yn ymateb o ganlyniad i’n cyflwyniad ar ddynodiad yr Ardal Arbennig o Gadwraeth a’i hamgylchoedd cyfagos."
NODIADAU:
Bydd cyflwyniadau’n cael eu clywed gan Bwyllgor Deisebau Senedd Ewrop ar Ebrill 2, 2008. Os gellir dangos bod cyfraith Ewropeaidd wedi cael ei dorri, yna gellir cau’r safle yn y pen draw.