Mae ASE Plaid Cymru Jill Evans wedi gwrthod honiadau gan Ganghellor y DU Alistair Darling sydd yn awgrymu mai cael gwared ar yr holl gymorthdaliadau i ffermydd yw’r ateb ar gyfer gostwng prisiau bwyd. Beirniadodd ei ddiffyg ymgynghori ar y pwnc pwysig hwn a chefnogodd safbwynt Gweinidog Materion Gwledig Cymru, Elin Jones.
Dywedodd Dirprwy Lywydd Plaid Cymru:
"Does dim amheuaeth fod angen diwygio Polisi Amaethyddol Cyffredinol yr Undeb Ewropeaidd, ond mae’n rhaid i ni fynd amdani mewn ffordd newydd, gan roi ystyriaeth i newid hinsawdd a phryderon amgylcheddol. Nid yw hwn yn golygu diwedd y CAP, ond byddai’n golygu cymryd trywydd gwahanol.
"Dylai cyflawni sicrwydd bwyd, ymladd newid hinsawdd, lles anifeiliaid a sicrhau fod ariannu’r Undeb Ewropeaidd yn llwyddo i gyflenwi’r amcanion hyn ynghyd ac adnoddau digonol i drin y sgil-effeithiau ar gymunedau gwledig fod yn fan cychwyn i hyn.
"Mae’n ymddangos bod Canghellor y DU, Alistair Darling yn cymryd golwg byrdymor iawn gan edrych yn unig mor bell ag isetholiad Crewe, ac yn dymuno cael ei weld i fod yn cymryd camau pendant ynglyn â phrisiau bwyd. Ond daw’r cynnydd diweddar mewn prisiau bwyd o ganlyniad i ystod o ffactorau gan gynnwys tywydd drwg, costau ynni uchel, cynnydd mawr yn y galw o Asia ac i raddau llai, y cynnydd mewn biodanwydd.
"Rhaid i ni sicrhau hyfywdra hirdymor cymunedau gwledig yng Nghymru ac o amgylch y byd. Rhaid i ni sicrhau bod anghenion Cymru a’i chymunedau gwledig ac amaethyddol yn cael eu cwrdd, rhywbeth yn amlwg nad sy’n flaenoriaeth gan y Blaid Lafur. "
Ychwanegodd Jill Evans, sydd yn cynrychioli Cymru gyfan yn Senedd Ewrop, ei bod hi’n cytuno gyda’r Gweinidog Materion Gwledig, Elin Jones, fod angen trafodaeth arnom ni, a bod newid adnoddau tuag at ddatblygu gwledig ac yn enwedig rheolaeth tir gan ffermwyr yn fesur dylid ei gefnogi.
Diwedd/Ends.
NODIADAU
Dywedodd Llywodraeth Cynulliad Cymru bod y papurau a ryddhawyd gan y comisiwn yn gynharach heddiw wedi eu hanelu at gyflwyno sustem fwy syml ac effeithlon, gan ddangos bod yr argymhellion yn amlygu sut gall ffermwyr, drwy newidiadau i reolaeth tir, gyfrannu tuag at fynd i’r afael a newid hinsawdd.
Mae’r Comisiwn wedi gwneud hi’n glir nad oes gan y gwiriad iechyd unrhywbeth i wneud a diwygiad arwyddocaol pellach i’r CAP. Adlewyrchir hyn yn y papurau a wnaed ar gael heddiw.