Disgrifiwyd cynlluniau i ehangu rhaglen cyfnewid myfyrwyr Erasmus yr Undeb Ewropeaidd fel newyddion da i fyfyrwyr a phrifysgolion Cymru gan ASE Plaid Cymru, Jill Evans.
Cymeradwyodd Aelodau Seneddol Ewropeaidd yn Strasbwrg argymhellion yr wythnos hon fyddai’n gweld mwy o ysgoloriaethau ar gyfer myfyrwyr Ewropeaidd a chynnydd yn y nifer o fyfyrwyr fydd yn dod yma i astudio o du allan i’r Undeb Ewropeaidd.
Obeithir bydd y cynlluniau yn hwb bwysig i brifysgolion Cymru fydd yn gallu denu rhai o’r myfyrwyr tramor gorau ac academyddion. Bydd arian hefyd ar gael i hyrwyddo cysylltiadau rhwng prifysgolion Cymreig a’r rhai hynny tu allan i Ewrop.
Yn 2007/08 cyfanswm o 458 myfyriwr o Gymru astudiodd dramor diolch i Erasmus, gyda’r mwyafrif yn Ffrainc, Sbaen a’r Eidal, gyda’r Ffindir a Norwy hefyd yn gyrchfannau poblogaidd, ac mae pob prifysgol Gymreig yn cymryd rhan. Mae’r Comisiwn Ewropeaidd yn cynnig gwneud 950 miliwn ewro ar gael ar gyfer rhaglen Erasmus Mundus II yn 2009-13.
Wrth siarad o Strasbwrg yn dilyn y bleidlais, dywedodd yr ASE Plaid Cymru, sydd yn cynrychioli Cymru gyfan yn Senedd Ewrop:
"Nod y cynllun yma a fesurir mewn miliynau o bunnoedd, yw helpu ein prifysgolion ddenu’r myfyrwyr tramor a’r academyddion gorau, creu cysylltiadau gyda sefydliadau tramor a’i gwneud hi’n haws i’n myfyrwyr astudio dramor.
"Eisoes, mae’r cynllun wedi profi’n hynod boblogaidd yng Nghymru gyda channoedd o fyfyrwyr o Gymru yn astudio dramor bob blwyddyn diolch i Erasmus, a channoedd o fyfyrwyr tramor yn dod yma i astudio.
"Mae’n bleser gen i roi fy nghefnogaeth lawn i’r cynlluniau yma, ac rwy’n gobeithio bydd ein prifysgolion Cymreig yn manteisio’n llawn ar yr arian newydd sydd ar gael."
Dywedodd ei chyd-ymgeisydd Ewropeaidd dros Blaid Cymru, Natasha Asghar, a dreuliodd gyfnod tra’n fyfyrwraig ar brofiad gwaith yn swyddfa Jill ym Mrwsel:
"Roedd gweithio yn Ewrop yn brofiad anhygoel ac fe gafodd ddylanwad mawr ar fy llwybr gyrfa.
"Roedd y cyffro gwleidyddol a’r cyfle i gwrdd â phobl newydd dramor yn brofiad gwych ac yn un byddaf yn ei drysori am byth a byddwn yn ei argymell i bawb."
Diwedd/Ends