20/12/11: Swydd - Cynorthwydd Seneddol, Brwsel
Disgrifiad Swydd - Cynorthwydd Seneddol
Amcanion Allweddol
Bydd y Cynorthwydd Seneddol yn bennaf gyfrifol am reoli weinyddiaeth y swyddfa ac am baratoi gwaith ymchwil a seneddol ar gyfer gwaith Jill Evans yn Senedd Ewrop ac yng Nghymru.
Prif Gyfrifoldebau
• Gweinyddiaeth gyffredinol gan gynnwys ateb y ffôn, agor post, delio gyda ffacsys ac e-bostau
• Blaenoriaethu cyfathrebiadau a gwneud yr ASE yn ymwybodol o faterion pwysig sydd yn codi oddi wrthynt
• Cynnal a chadw systemau ffeilio electroneg a phapur y swyddfa.
• Cadw dyddiadur yr ASE ym Mrwsel a Strasbourg, trefnu cyfarfodydd yn ôl y gofyn
• Trefnu a chydlynnu teithio rhyngwladol yr ASE
• Cydlynnu gyda swyddfa gyllid y Senedd
• Dilyn pynciau ar bwyllgorau seneddol
• Drafftio briffau, areithiau ac erthyglau ar gyfer yr ASE
• Gwaith ymchwil ar nifer o bynciau lleol, cenedlaethol ac Ewropeaidd.
• Mynychu cyfarfodydd a seminarau perthnasol ar ran yr ASE, adrodd nôl pan yn addas
• Gweithgareddau rhesymol eraill y mae'r ASE neu'r Pennaeth Staff yn penderfynu arnynt o dro i dro.
Yn gyfrifol i
Bydd yr apwyntiedig yn gyfrifol yn y lle cyntaf i'r Pennaeth Staff ac yn y pendraw i'r ASE.
Cyffredinol
Mae hon yn swyddfa brysur sydd yn cydweithio'n agos gyda staff yn swyddfa yr ASE ym Mrwsel, gyda staff y Grwp Gwyrddiaid/EFA yn y senedd a chyda staff ac aelodau Plaid Cymru The Party of Wales.
Bydd ar yr apwyntiedig angen
-sgiliau cyfrifiadurol da (Word, Excel, Outlook, Internet, Powerpoint)
-dealltwriaeth da o flaenoriaethu gwaith ac addasu i sefyllfaoedd sydd yn codi.
-sensitifrwydd gwleidyddol
-y gallu i weithio'n hyblyg ac yn annibynnol yn ogystal ag yn rhan o dîm
Mae ymwybyddiaeth o a diddordeb yn sefyllfa wleidyddol yng Nghymru a sefydliadau yr Undeb Ewropeaidd yn fanteisiol.
Mae gwybodaeth o'r Gymraeg a'r Ffrrangeg yn ddymunol
Lleoliad
Lleolir y Cynorthwydd Seneddol yn swyddfa Jill Evans ASE yn Senedd Ewrop, Brwsel, gyda theithio achlysurol i Strasbourg ac i'r etholaeth
Oriau Gwaith
Diffinnir y rhain yn ffurfiol yn y cytundeb gwaith fel 37.5 awr yr wythnos. Mae angen ychydig o hyblygrwydd i gydfynd â'r amserlen seneddol.
Amodau a Thelerau
Mae'r swydd yn llawn amser ar gytundeb tymor-penodol tan yr etholiadau Ewropeaidd nesaf. Mae hyn yn ddibynnol ar gyflawni cyfnod prawf o 6 mis yn llwyddiannus. Mi fydd y tâl cychwynnol ar radd 2 o'r graddfa cyflogau cynorthwywyr ardystiedig ac fe delir treth a lles cymdeithasol yn r UE. Mae 22 diwrnod o wyliau yn ogystal â gwyliau banc Prydeinig, Dydd Gwyl Dewi a phythefnos gwyliau seneddol dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd. Mae manylion pellach am dermau ac amodau yn y cytundeb gwaith ac fe gellir eu trafod ymhellach gyda'r cyflogydd.
Anfonwch CV a llythyr gyda gwybodaeth cefndirol at:
jill.evans-office@europarl.europa.eu
Dyddiad cau - 12:00 (hanner dydd) dydd Llun 16 Ionawr 2012
Mi fydd y cyfweliadau'n cael eu cynnal ar ddydd Gwener 20 Ionawr 2012 yng Nghymru.