.
Y cyntaf i'r felin gaiff falu, ond mae blaenoriaeth yn cael ei roi i'r sawl sydd heb fod o'r blaen.
Mae sawl amod i dderbyn grwpiau ymwelwyr i'r Senedd:
* Mae rhaid i'r nifer o ymwelwyr fod o leiaf 20 person (neu bydd yr arian nawdd yn cael ei dynnu'n nol)
* Uchafswm y nifer allwn ni ei dderbyn eleni yw 25
* Mae'n rhaid i bob ymwelydd fod dros 14 oed
* Mae'r nawdd yn cael ei gyfrifo o'r pellter teithio, ond tua 140 ewro y person fydd ar gael
* Mae hefyd 35 ewro y person yn cael ei roi am y dydd ar gyfer costau bwyd.
* Bydd yr ymweliad yn para awr a hanner, 45 munud yn cael cyflwyniad gan adran Ymwelwyr y Senedd, a 45 munud yn cael sgwrs gyda Jill.
* Mae'n rhaid i'r ymwelwyr drefnu'r taith gyfan (teithio a llety). Yr unig ran fydd yn cael ei drefnu gan y Senedd fydd yr ymweliad ei hun.