• Hafan
  • Amdanai
  • Y Wasg
  • Areithiau
  • Lluniau
  • Ffilmiau
  • Dolenni i wefannau eraill
  • Cwestiynau Cyffredin
  • Rali Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
    Caernarfon
    Rhagfyr 15fed 2012

    Dylai canlyniad y cyfrifiad fod yn fater o bryderi bawb yng Nghymru. Mae'r iaith Gymraeg yn perthyn i bawb. Mae'n rhan hanfodol o hunaniaeth a diwylliant Cymru ac i bawb sy'n byw yma - siarad Cymraeg neu beidio.

    Mewn cymunedau fel hyn, mae'n iaith bob dydd i'r rhan fwa o bobl. Mewn cymunedau eraill, fel y Rhondda lle dwi'n byw, mae'r iaith yn ysgolion - iaith y plant. Does dim byd gwell nag ymweld Ô'm hen ysgol gynradd fi (iaith Saesneg pryd hynny) a chlywed y plant yn siarad Cymraeg. Mae'n codi fy nghalon. A does dim amheuaeth bod y gyfundrefn addysg wedi gwneud gwahaniaeth enfawr - o ran dysgu'r iaith i blant bach yn bennaf ond hefyd o ran dysgu i oedolion. Mae rhaid i ni ddathlu ein llwyddiannau, a dwi'n gwybod fel Aelod Senedd Ewrop bod llawer o wledydd eraill wedi ein gweld fel esiampl dda o ran hybu'r iaith. Bydden nhw hefyd yn siomedig heddiw ar y ffigurau. Mae rhaid i ni weld y gostyngiad ddim fel adlewyrchiad o fethiant, ond yn dangos maint yr her sydd o'n blaenau.

    Mae rhaid i ni adeiladu mudiad gwir genedlaethol - cymdeithasau ac unigolion arbenigwyr polisi ac athrawon gwleidyddion a gweinidogion, mudiadau cymunedol ac amgylcheddol.

    Mae iaith yn fwy na fodd cyfathrebu. Mae iaith yn rhan hanfodol o'n hunaniaeth - yn rhan o amrywiaeth cenedlaethol y byd. Mae'r iaith Gymraeg yn rhan fach o'r jigso byd eang. Mae colli un rhan o'r jigso hwnnw yn dinistrio'r darlun cyfan. Mae colli'n iaith nid yn unig yn drychinebus i ni, ond yn golled i'r byd. Nid yw colli yn opsiwn, felly ein man cychwyn yw sut i ennill y frwydr.

    Dwi wedi bod yn brwydro dros statws swyddogol llawn i'r Gymraeg yn Ewrop. Nid yw'r Deyrnas Unedig yn wladwriaeth unieithog. Mae hen bryd i'r pleidiau Prydeinig gydnabod hynny a pharchu hynny.

    Yn ei araith ar fewnlifiad dydd Iau, wnaeth arweinydd y Blaid Lafur Prydeinig siarad llawer am wneud y Saesneg yn orfodol i swyddi yn y sector gyhoeddus, yn angen i bawb siarad Saesneg o safon dda a thorri costiau cyfieithu. Doedd dim cyfeiriad o gwbl at y cymunedau Cymraeg eu hiaith, na at yr iaith Gymraeg o gwbl! Ar y gorau, mae'n ansensitif i anghenion Cymru. Rhaid i wneud i bleidiau Prydeinig newid.

    Rydyn ni i gyd yn cofio'r hwb gawson ni ddeng mlynedd yn ˘l gyda'r codiad yn y siaradwyr Cymraeg yn y cyfrifiad pryd hynny.

    Rydyn ni'n gwybod bod y frwydr dros yr iaith ddim yn un hawdd. Faint o bobl sy wedi gorfod torri'r gyfraith, mynd i'r llys, mynd i'r carchar i gyrraedd lle rydyn ni heddiw? Cymaint o bobl sy wedi aberthu cymaint i ddiogelu ein hawliau dynol - hawliau sylfaenol? A faint ohonoch chi sy wedi cymryd camau pendant yn eich lle gwaith, gyda'ch ffrindiau, gyda'ch teulu dros yr iaith. Mae pob un o'r weithred hon yn cyfri.

    Dyna pam mae rhaid i ni gael trafodaeth genedlaethol. Mae'n fater llawer mwy nag i'r Cymry Cymraeg yn unig.

    Mae'n hollol annerbyniol bod llywodraeth Cymru yn mynnu bod awdurdodau lleol yn adeiladu miloedd ar filoedd o dai newydd - a hynny ddim yn seiliedig ar anghenion lleol, ond yn cael ei yrru gan ddatblygwyr. Drwy hynny ddim yn creu cymunedau cynaliadwy ac i'r gwrthwyneb - bydd yn tanseilio'r iaith Gymraeg pellach. Ac nid yw'r cyd - ddigwyddiad bod yr ardaloedd sy wedi gweld cwymp yn yr iaith yw'r ardaloedd lle mae'r economi'n wan. Mae'r argyfwng economaidd wedi creu argyfwng ieithyddol a diwylliannol hefyd. A dyna wraidd y broblem: nid yw iaith yn gallu goroesi heb sylfaen economaidd gadarn. Os ydy pobl am aros yn eu cymunedau, mae angen y cyfleoedd economaidd i'w cadw nhw yno - mae hynny'n golygu swyddi, fforddio prynu ty, a defnyddio gwasanaethau lleol.

    Mae rhaid i ddatblygiad cyson y Gymraeg fel iaith fyw fod yn ganolog i bolis´au llywodraeth Cymru.

    Jill Evans ASE

    Photo: Jill Evans