• Hafan
  • Amdanai
  • Y Wasg
  • Areithiau
  • Adroddiadau
  • Lluniau
  • Ffilmiau
  • Cwestiynau Cyffredin
  • LobbyCal
  • Refferendwm UE
  • Lansiad Ymgyrch Cymru yn Ewrop
    The Factory, Y Porth
    Chewfror 10 2016

    Cred Plaid Cymru taw o fewn Ewrop mae cartref naturiol Cymru. Maer Undeb Ewropeaidd wedi gwasanaethu ein buddianau ac wedi cyd-daro n gwerthoedd ninnau ers sawl blwyddyn ac fe hoffem weld y berthynas lwyddianus yman blodeuo yn y dyfodol.

    Mae Cymrun elwa drwy fod yn aelod or Undeb Ewropeaidd (UE) yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn ddiwyllianol.

    Yng Nghymru mae bron i 200,000 o swyddi yn gysylltiedig chael mynediad at y Farchnad Sengl ar hanner biliwn o bobl sydd ynddi. Mae miloedd o fyfyrwyr a phobl ifanc yn elwa o raglennir UE fel y gallant astudio a gweithio mewn gwledydd eraill a dysgu ieithoedd newydd.

    Drwy gydol yr UE mae geenym gyfreithiau ynglyn chydraddoldeb, ar yr amgylchedd, ar hawliau gweithwyr a defnyddwyr, ar ffermio ac ar ansawdd bwyd, i frwydro yn erbyn newid hinsawdd a llawer mwy. Rydym wedi gallu rheolir cemgolion y nein hamgylchedd a glanhau ein afonydd.

    Mae pawb yn hoff o gwyno am reolau a rheoliadau ac fe wyddwn yn rhinwedd fy swydd fel Aelod Seneddol Ewropeaidd (ASE), ein bod wedi rhoi gormod o faich, yn enwedig ar fusnesau bach, i ymdopi r rhain a bod angen i ni fynd ir afael hynny. Ond edrychwch ar yr effaith yn ei chyfanrwydd. Bun dda iawn. Bun llawer mwy na fyddair Deyrnas Gyfunol (DG) wedi gwneud ar ei phen ei hun. Mae wedi gwneud gwahaniaeth mawr in bywydau.

    Dymunwn gael llais cryfach dros Gymru ac fe fyddwn yn parhau i weithio dros hynny. Ond ni allwn gollir llais sydd gyda ni yn Ewrop. Rydym wedi gwneud ein marc ac fe allwn gyfrannu llawer mwy tuag at adeiladu cymdeithas decach a gwell. Ond does dim mod di ni wneud hynny os nad oes gyda ni lais na dylanwad.

    Dymunwn wella amodau gwaith gweithwyr a gweithio gyda gwledydd eraill er lles yr amgylchedd, cynaladwyedd a chyfianwder cymdeithasol. Mae yna fudiad blaengar dros newid ar draws yr UE ac mae Plaid Cymru yn rhan o hwnnw.

    Maer UE wedi helpu i sefydlu heddwch a chadwr heddwch yn Ewrop: dyma swyddogaeth na ddylid ei thanbrisio ac maen rhaid ei warchod ac adeiladu arni ar gyfer y dyfodol.

    Mae yna lawer yr hoffwn ni ei newid am yr UE, ond dim ond o fod ynddi y gallwn wneud hynny. Gwastraff ymdrech ac amser yw gwaeddu or cyrrion. Ynlle hyny, dewiswn weithio gydan chwaer bleidiau yng Nghynghrair Rydd Ewrop a chyda cyfeillion blaengar ar draws yr UE.

    Yn ystod ymgyrch y refferednwm hwn, bydd Plaid Cymru yn edrych ymlaen at gyflwyno ein hachos dros Gyru cryf a chyfoethog o fewn Ewrop. Byddwn yn gweithio gyda phleidiau eraill er mwyn darbwyllo pobl o blaid yr achos dros aros yn yr UE achos cadarnhaol.

    Mae yna gymaint o newyddion da am yr hyn a wnaed gan yr UE. Ni fyddwn yn ceisio codi ofn ar bobl i bleidleisio oherwydd bod ofn y dewis amgen arnnom ni. Byddwn yn hytrach yn dadlau bod aros o fewn yr UE er budd pob un ohonom.

    Mae hwn yn ddewis anferth sydd yn wynebu pobl Cymru. Maen ddewis ynglyn r math o Gymru yr hoffem ei adeiladu. Y math o Gymru dymunwn ei weld ar gyfer cenhedloedd y dyfodol.

    Roeddwn yn rhy ifanc i bleidleisio yn y reffeendwm cyntaf. Ond rwyn falch i Gymru pleidleisio ie i Ewrop bryd hynny. Rwyf innau a fy nghenhedlaeth innau ar sawl a ddaeth wedyn wedi elwa or penderfyniad hwnnw. Am y rhan fwyaf o fy mywyd rwyf wedi gallu teithio, dysgu am wledydd eraill, eu dysgu am Gymru ac i weithio gydan gilydd ar werthoedd a dyheadau cyffredin.

    Maer UE wedi bod yn orchest rhyfeddol. Dyw e heb fod yn ddi-drafferth, wrth gwrs, - gyda phroblemau difrifol iawn. Ond mae gyda ni well cyfle o ddatrys y problemau hynny gydan gilydd yn hytrach nac ar wahn. Oherwydd ni fyddair weithred o adael yr UE yn cael gwared r problemau hynny.

    Dymunaf weld cenhedloedd y dyfodol yn cael y cyfleoedd a gawsom ninnau drwy weithio gyda nifer o wledydd eraill a drwy fod yn Ewropeaid. Mae hwn ynglyn gweld Cymru mewn cyd-destun byd-eang ac Ewropeaidd gweld y darlun mwy.

    Dyna yw hanfod y refferendwm i Blaid Cymru. Dyna fydd ein neges gadarnhaol i bobl Cymru.

    Diwedd.

    Llun: Jill Evans