• Hafan
  • Amdanai
  • Y Wasg
  • Areithiau
  • Lluniau
  • Ffilmiau
  • Dolenni i wefannau eraill
  • Cwestiynau Cyffredin
  • "Deugain mlynedd o Gymru yn Ewrop"
    Eisteddfod Genedlaethol, Dinbych
    Awst 9fed 2013

    Bun gant trideg un o flynyddoedd ers i Ddinbych gynnal ei Eisteddfod gyntaf ac rwyn falch ein bod nl yma am bedwaredd tro. Wrth gwrs, cafwyd trafodaeth barhaus yr wythnos hon ynglyn dyfodol yr wyl unigryw Gymraeg, Ewropeaidd, hon o iaith a diwylliant. Cafwyd hyd yn oed mwy o drafodaeth yn ystod y misoedd diweddar ynglyn r Undeb Ewropeaidd, wedi dim ond deugain mlynedd o fod yn aelod. Heddiw, byddaf yn cymryd golwg yn l ar sut a pham yr esblygodd yr Undeb Ewropeaidd, beth mae hyn wedi ei olygu i Gymru a pha ddyfodol sydd yna i Gymru yn Ewrop.

    Cynhelir etholiadau i Senedd Ewrop fis Mai nesaf a phenodiad Comisiwn Ewropeaidd newydd. Mae argyfwng parth yr Ewro wedi herio seiliaur Undeb Ewropeaidd ac rydym yn debygol o gael refferendwm ar aelodaeth y Deyrnas Gyfunol yn nwy fil ac Undeg saith. Mae hwn oll yn arwydd o newid mawr, a wnaed yn fwy llym gan refferendwm yr Alban ar annibyniaeth a refferendwm o bosib yng Nghatalwnia hefyd. Bydd dwy fil a phedair ar ddeg yn newid Ewrop.

    Dyw Plaid Cymru heb wrthwynebu refferendwm ar aelodaeth or Undeb Ewropeaidd. Chawson ni fyth drafodaeth iawn ar ddyfodol Cymru yn yr Undeb Ewropeaidd ac mae angen i ni wneud hynny. Ond rhaid iddo fod mewn cyd-destun Cymreig oherwydd bod budd cenedlaethol Cymru yn wahanol iawn i fudd y Deyrnas gyfunol pan ddaw hi ir Undeb Ewropeaidd.

    I lawr y lon oddi yma yng Nghilgwyn y bu un o awduron mwyaf Cymru, Kate Roberts, yn byw. Cafodd yrfa ddisglair gan gynnwys y ffaith taw hi oedd un o aelodau cyntaf y Blaid yn un naw dau pump. Cyfarfu i darpar wr drwyr blaid, pan deithiodd mewn trn i Ysgol Haf cyntar Blaid ym Machynlleth a chwrdd Morris T. Williams wrth orsaf Groeslon. Bu hefyd yn byw yn y Rhondda, yn Nhonypandy, o un naw tri un hyd at un naw tri pump ller oedd yn ffigur allweddol wrth sefydlur Blaid yno - gwaddol wnes i elwa ohono.

    Llyfr enwoca Kate Roberts yw Traed Mewn Cyffion, a gyhoeddwyd yn un naw tri chwech. Cafodd y llyfr ei ysbrydoli gan ei bywyd fel merch chwarelwr yng Ngwynedd. Gwlad o gyflogau isel, addysg wael, undod rhwng gweithwyr bychain a thlodi bwyd ywr Gymru mae hin ei ddisgrifio.

    Roedd Kate Roberts yn arloeswraig gynnar addysg Gymraeg a sefydlodd Ysgol Twm or Nant yn Ninbych yn un naw chwech wyth. Cafodd yr ysgol ei enwi ar l Thomas Edwards, a oedd yn fwy adnabyddus gan ei ffugenw Twm or Nant. Ysgrifennodd sylwebaeth gymdeithasol hallt ar broblemaur cyfnod, fel y rhenti uchel a dalwyd gan ffermwyr denantiaid i dirfeddianwyr yn Llundain oedd yn byw bywyd moethus ar draul y tlodion.

    Heddiw, mae gan Gymrur cyflogau isaf ar cyrhaeddiad addysgol isaf yn y Deyrnas Gyfunol, tri deg pum mil o bobl yn defnyddio banciau bwyd yn rheolaidd, treth y stafell wely, syn golygu fod yn rhaid i bobl adael eu cartrefi ac argyfwng ariannol a achoswyd gan fancio anghyfrifol, wrth i gwmnau amlwladol warer system er mwyn talu cyn lleied o dreth phosib.

    Cawn ein tanariannu gan tua pedwar can miliwn o bunnoedd bob blwyddyn gan lywodraeth Llundain. Mae ysgrifenwyr yn Sir Ddinbych wedi deall y problemau hyn ers y ddeunawfed ganrif. Dydyn ni ddim yn genedl dlawd ond yn hytrach yn un sydd wedi cael ei wneud yn un tlawd. Rhaid i ni drawsffurfio ein heconomi ac rwyn credu gall yr Undeb Ewropeaidd a gwell cydweithio Ewropeaidd ein helpu i wneud hynny. Fodd bynnag, beth am ddechrau or dechrau gyda chreadigaeth yr Undeb Ewropeaidd. Fe ddechreuodd gyda chwe gwlad yn unig yn un naw pump dau, pan sefydlwyd y Gymuned Glo a Dur Ewropeaidd yn Lwcsembwrg. Doedd Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol ddim yn aelod ac fe geisiodd greu ei sefydliad ei hun gyda gwledydd eraill er mwyn cystadlu hwnnw, ond methu oedd hanes y fenter.

    Yn un naw pump saith llofnododd y chwe gwlad - Gwlad Belg, Lwcsembwrg, Yr Iseldiroedd, Gorllewin yr Almaen, Ffrainc ar Eidal, Gytundeb Rhufain. Dyma greodd y Gymuned Economaidd Ewropeaidd ac a sefydlodd undeb tollau cyffredin. Erbyn yr un naw chwedegau, gwelodd lywodraeth y Deyrnas Gyfunol y buddion o fod yn aelod or Gymuned Economaidd Ewropeaidd, ond gwrthododd Arlywydd Ffrainc, Charles de Gaulle, adael ir Deyrnas Gyfunol ymaelodi gan ddefnyddioi feto ar ddau achlysur, yn un naw chwe tri ac un naw chwe saith. Yn y pen draw, caniatawyd ir Deyrnas Gyfunol ymaelodi yn un naw saith tri, sef yr un pryd Denmarc ac Iwerddon. Cafwyd refferendwm ynglyn ag aelodaeth yn un naw saith pump ac fe bleidleisiodd chwedeg saith y cant or etholaeth (chwedeg pedwar y cant yng Nghymru) i aros yn y gymuned. Diddorol yw edrych ar y galwadau a wnaeth Plaid Cymru cyn cydsynio i fod yn aelod or Gymuned Economaidd Ewropeaidd. Mae penderfyniad a wnaed yng nghynhadledd un naw saith dim yn datgan: Maer Gynhadledd yn galw ar Ysgrifennydd Gwladol Cymru iw gwneud hin flaenoriaeth ar frys i sicrhau bod gwybodaeth ar gael i bobl Cymru ynglyn ag oblygiadau llawn aelodaeth y Deyrnas Gyfunol or Gymuned Economaidd Ewropeaidd ar Gymru. Maer Gynhadledd yn gresynu at fethiant Llywodraethau Llafur a Cheidwadol i wneud y ffeithiaun wybyddus ac yn ailadrodd cais y blaid am Adroddiad Cyhoeddus gan y Swyddfa Gymreig ar yr effeithiau tebygol pe bair deyrnas gyfunol yn ymaelodi r Gymuned Economaidd Ewropeaidd. Yna yn un naw saith un: Y maer Gynhadledd yn gwrthod derbyn Papur Gwyn y Llywodraeth (The United Kingdon and the European Communities) ac yn ail ddatgan fod angen Papur Gwyn arbennig i drafod effeithiau aelodaeth Prydain or Farchnad Gyffredin ar Gymru. Y maen hollol warthus nad oes unrhyw gyfeiriad at Gymru o gwbl yn y Papur Gwyn

    Felly o ddiwrnod cyntaf aelodaeth y Deyrnas Gyfunol, cafodd anghenion Cymru - ac yn enwedig anghenion diwydiant yng Nghymru - eu hanwybyddu. Ar hyn a fynnwn heddiw yw y dylai canlyniadaur refferendwm yng Nghymru gael eu cyhoeddi ar wahn, gan adleisior hyn a alwom amdani yn un naw saith dim, sef bod pobl Cymru yn penderfynu ar eu haelodaeth eu hunain.

    Maer Gynhadledd yn galw ymhellach ar y Llywodraeth i ymgynghori gydar etholwyr (drwy gyfrwng arolwg neu refferendwm neu unrhyw ddull arall) cyn derbyn telerau aelodaeth gan y Chwech, gan dderbyn y telerau hynnyn unig os yw mwyafrif y bobl yng Nghymru ar Alban, yng Ngogledd Iwerddon ac yn Lloegr yn cefnogir telerau a gynigir.

    Pam mae hyn mor bwysig? Oherwydd bod yn rhaid i ni edrych ar fudd cenedlaethol Cymru - dyna pam rydym yn credu bod aelodaeth or Undeb Ewropeaidd heddiw yn dda i Gymru. Y ffactor allweddol ywr economi. Mae polisi effeithiol rhanbarthol wedi bod gan yr Undeb Ewropeaidd ers un naw wyth wyth, na welwyd ei debyg ym Mhrydain ers diwedd yr Ail Ryfel Byd. Mae ganddi fecanwaith ailddosbarthu sydd wedi ei seilio ar angen - y cronfeydd strwythurol. Cnt eu dyrannu i ranbarthau yn seiliedig ar Gynnyrch Mewnwladol Crynswth, sef y ffordd y caiff perfformiad economaidd ei fesur. Mae gan Gymru ddau ranbarth o fewn yr Undeb Ewropeaidd: Y Cymoedd a Gorllewin Cymru a Dwyrain Cymru. Ers y flwyddyn dwy fil, mae Gorllewin Cymru ar Cymoedd wedi derbyn uchafswm lefel cronfeydd yr Undeb Ewropeaidd oherwydd ei fod yn gyson yn llai na saithdeg pump y cant o gyfartaledd yr Undeb Ewropeaidd - ac rydym yn mynd i dderbyn ariannu pellach hyd at y flwyddyn dwy fil ac ugain.

    Ond hanes o wrthdaro fu hanes Cymru ac ariannu rhanbarthol - nid gydar Undeb Ewropeaidd ond gydar Deyrnas Gyfunol. Cyn y flwyddyn dwy fil, rhannwyd Cymru yn ddau ranbarth, gogledd a de. Cymerodd hi ymgyrch hir a llafurus er mwyn cael llywodraeth y Deyrnas Gyfunol i gydnabod bod hyn yn cuddio gwir wyneb tlodi, gydar dwyrain cyfoethocach yn gwthior ffigurau Cynnyrch Mewnwladol Crynswth i fyny. Pan newidiwyd y ffin yn un dwyrain - orllewin, daethom yn gymwys i gael miliynau yn fwy.

    Maen wir taw llwyddo i lenwi rhai or bylchau a adawyd gan lywodraeth Llundain wnar cronfeydd. Er hynny, yr hyn maen ei olygu yw bod yr Undeb Ewropeaidd yn gyson wedi seilio ei ariannu i Gymru ar angen yn hytrach na llywodraethau olynol y Deyrnas Gyfunol, sydd wedi ei seilio ei chyfraniad i Gymru ar ffigurau poblogaeth.

    Mae Llywodraethaur Deyrnas Gyfunol o bob lliw gwleidyddol wedi ei gwneud hin glir eu bod yn dymuno ail-wladoli cronfeydd strwythurol ir Deyrnas Gyfunol. O ystyried methiant hanesyddol Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol i weithredu polisi rhanbarthol effeithiol, credaf y gallai hyn fod yn drychinebus. Ac eto, ymhob trafodaeth cyllideb yn Senedd Ewrop, maen rhaid i ni amddiffyn ariannu gan yr Undeb Ewropeaidd yn erbyn ymdrechion gan y Deyrnas Gyfunol iw dorri. Hyd yn hyn bm yn llwyddiannus oherwydd bod y nifer helaethaf o aelod wladwriaethaun credun gryf fod cydsafiad yn nodwedd allweddol or Undeb Ewropeaidd yn ei hun.

    Mae ein haelodaeth or Undeb Ewropeaidd yn werthfawr iawn yn nhermau amaethyddiaeth a chymunedau gwledig hefyd. Mae wythdeg y cant o ffermwyr yng Nghymru yn derbyn taliadau uniongyrchol drwyr Polisi Amaethyddol Cyffredin. Eto, mae Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn dymuno diddymur polisi er nad yw'n rhoi unrhyw warant y byddain rhoi rhywbeth yn ei le. Maen glir tawr ffordd fwyaf effeithiol i alluogi cefn gwlad Cymru i ddatblygu a ffynnu yw drwy barhau i fod yn aelod or Undeb Ewropeaidd.

    Ac eto dywr ffeithiau hyn ddim yn cael eu cyflwyno i bobl yng Nghymru - yn yr un modd na chawson nhw eu cyflwyno yn y saithdegau. Llynedd fe ofynnais i i lywodraeth Cymru, Swyddfa Ariannu Ewrop swyddfar Comisiwn Ewropeaidd yng Nghaerdydd am restr ddadansoddol or holl arian a ddaw i Gymru or Undeb Ewropeaidd. Nid y cronfeydd strwythurol ar taliadau CAP yn unig oedd y rhain, ond yr arian ymchwil sydd yn mynd i brifysgolion a busnesau, ariannu i alluogi myfyrwyr i astudio dramor, arian i helpu gefeillio trefi, cymorth i bysgodfeydd a llawer mwy. Doedd neb wedi dod r wybodaeth yma ynghyd. Doedd neb wedi edrych ar yr hyn roedd Cymrun ei gael - ac o fwy o bwys, wedi cymharu hynny gydar hyn roedd Cymrun ei dalu mewn. Felly fe wnes i hynny. Er fy mod yn derbyn y gallant danbrisior sefyllfa, maer canlyniadaun dangos tra bod pob person yn talu cant nawdeg chwech Ewror flwyddyn mewn i gyllideb yr Undeb Ewropeaidd, fe gawn ddau gant pedwardeg pedwar Ewro y pen yn l. Mae hyn yn golygu ein bod yn cael tua pe dwardeg ewro y pen yn fwy nar hyn fyddwn yn talu mewn iddi. Fe glywn o hyd ac o hyd fod y Deyrnas Gyfunol yn gyfrannwr net ai fod yn dymuno cael ei arian nl. Yng Nghymru y gwrthwyneb syn wir. Rydym yn fuddiolwyr net.

    A dydyn ni ddim yn elwan ariannol yn unig or Undeb Ewropeaidd. Sefydlwyd y Gymuned Economaidd Ewropeaidd yn dilyn dau ryfel trasig ac mae ei wreiddiaun hanu o broject heddwch i oresgyn rhaniadau hanesyddol rhwng Ffrainc ar Almaen. Roedd yn orchest anferth rhwng Aelod Wladwriaethaur Undeb Ewropeaidd sydd yn annirnadwy heddiw. Wrth gwrs, wrth iddo ehangu ac yn dilyn cwympo Wal Berlin, mae wedi cofleidio gwledydd or dwyrain hefyd. Mae trafodaethaun cael eu cynnal ar hyn o bryd gyda gwledydd fel Bosnia a Macedonia - a Thwrci.

    Tra bu pwyslais ar ddenu aelodau newydd, cafwyd mwy o drafodaeth ynglyn ag amddiffyn a diogelwch hefyd. Sefydlodd Gytundeb Maastricht yn un naw naw tri, bolisi tramor a pholisi diogelwch cyffredin. Cafodd gwaith dyngarol ac achub, cadw-heddwch, rheoli argyfwng a chreu heddwch eu hymgorffori i waith yr Undeb Ewropeaidd. Gellir lleoli hyd at chwedeg mil o bersonl milwrol o fewn chwedeg dydd a hyd at bum mil o swyddogion heddlu ar gyfer cyrchoedd rhyngwladol. A dweud y gwir, mae dwy ran o dair o bob cyrch wedi bod yn rhai sifiliaid. Maer Cytundeb Lisbon diweddaraf yn datgan taw Nod yr Undeb yw hybu heddwch, ei werthoedd a lles ei phobloedd. Byddai neb yn anghytuno.

    Dyna pam rwyf wedi argymell, i gofnodi canmlwyddiant y Rhyfel Mawr y flwyddyn nesaf, dylair Undeb Ewropeaidd ganolbwyntio nid ar ddatblygu byddin filwrol, ond sefydlu Corfflu Heddwch. Byddai hyn wedi ei wneud o sifiliaid fel peirianwyr, athrawon, gweithwyr cymdeithasol, doctoriaid a seicolegwyr fyddain gostwng gwrthdaro a chynyddu hyder ymhlith ochrau syn gwrthwynebu ei gilydd. Gallai Asiantaeth Adeiladu Heddwch gydlynu gwaith y timoedd heddwch hyfforddedig er mwyn amddiffyn cymdeithas ddinesig a gweithio dros ddialog a chymodi.

    Bydd yr Undeb Ewropeaidd yn edrych am swyddogaeth newydd yn y dyfodol wrth i fwy o bobl gael eu dadrithio gyda pholisau llymder ac argyfwng Parth yr Ewro. Gallaf feddwl am ddim gwell na fflaglong ar gyfer creu heddwch yn y byd a gobeithiaf bydd Llywodraeth Cymrun cefnogi hyn.

    Uwch Gynrychiolydd yr Undeb Ewropeaidd dros Faterion Allanol ac \is-lywydd Comisiwn Ewrop yw Catherine Ashton o Loegr. Fei penodwyd hin Gomisiynydd Ewropeaidd gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol. Caiff y Comisiwn ei wneud o ddau ddeg wyth o bobl sydd wedi cael eu penodi gan lywodraethaur aelod wladwriaethau.

    Chafodd Llywodraeth Cymru ar Cynulliad ddim llais yn y penodiad pwerus hwn. Flwyddyn nesaf, caiff Comisiwn newydd ei benodi ar l yr etholiadau Ewropeaidd. Eisoes, mae ymgais yn cael ei wneud i sicrhau bod llywydd y Comisiwn yn cael ei ethol yn ddemocrataidd. Dyw e ddim yn dderbyniol bod llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn penodi comisiynydd newydd heb y Cynulliad ar gweinyddiaethau datganoledig eraill, o leiaf, yn gorfod cymeradwyor penodiad. Gwell fyth fyddai cael penodiad syn cylchdroi fel y byddai gan Gymru ei Chomisiynydd ei hun am hyd o amser penodol.

    Wrth gwrs, gydag aelodaeth annibynnol, byddai gan Gymru Gomisiynydd ei hun. Mae gan yr Undeb Ewropeaidd dri phrif sefydliad sydd yn creu cyfraith yr Undeb Ewropeaidd. Maer Comisiwn yn argymell cyfreithiau, ac maer Senedd Ewropeaidd a etholwyd yn uniongyrchol a Chyngor y Gweinidogion (gweinidogion or wyth ar hugain aelod wladwriaeth) yn trafod a gwella cynigion ac maen rhaid ir ddau gorff cytuno cyn iddo ddod yn ddeddfwriaeth.

    Maen debyg byddai gan Gymru annibynnol yn debycach i ddeg yn hytrach na phedwar Aelod Seneddol Ewropeaidd. Mae hyn oherwydd bod yr Undeb Ewropeaidd yn rhoi mwy o gynrychiolaeth i aelodau llawn llai er mwyn rhwystro aelod wladwriaethau mwy rhag cael gormod o ddylanwad. Mae gan Ynys Melita, sydd ganddi boblogaeth nad sydd lawer yn fwy na Chaerdydd, chwe aelod seneddol Ewropeaidd. Mae yna chwe aelod wladwriaeth llawn sydd yn llai na Chymru. Dyw maint ddim yn bwysig! In the Council of Ministers too the advantages are clear. Instead of UK ministers voting on our behalf, we would have Welsh government ministers.

    A chydag annibyniaeth fe ddeuai statws swyddogol awtomatig ar gyfer yr iaith Gymraeg. Mae yna ddau ddeg pedwar iaith swyddogol yn yr Undeb Ewropeaidd a dros chwedeg o ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol yn cael eu siarad gan dros bumdeg miliwn o bobl.

    Ceir y datganiad canlynol mewn un ddogfen gan y Comisiwn Ewropeaidd:

    "Maer iaith a siaradwn yn helpu i ddiffinio pwy ydym. Maer llu o ieithoedd a siaredir gan y pum can miliwn o ddinasyddion yn yr Undeb Ewropeaidd wediu gwasgaru ar draws pedwar ban y cyfandir gan ffurfio brithwaith anferth. Maer Undeb Ewropeaidd yn cydnabod yr hawl hwn I hunaniaeth ac yn mynd ati I hybu ein rhyddid I siarad ac ysgrifennu ein iaith ein hunain. Ar yr un pryd maen dal i anelu at ein nod o integreiddion aelod-wladwriaethaun well. Maer amcanion hyn yn ategu ei gilydd, gan ymgorffori arwyddair yr Undeb Ewropeaidd, sef Unedig mewn Amrywiaeth.

    Ond allwn ni ddim aros am annibyniaeth er mwyn cael statws lawn swyddogol ir Gymraeg. Maer Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru. Os ydym yn wir ddinasyddion Ewropeaidd, pam nad yw hin iaith swyddogol yn Ewrop?

    Lansiais ymgyrch a lwyddodd i sicrhau statws cyd-swyddogol ir Gymraeg yn nwy fil ac wyth. Golyga hyn ddefnydd cyfyng or Gymraeg yn y Cyngor a Phwyllgor y Rhanbarthau, er enghraifft, a dymar un statws a roddir ir Gatalaneg, Basgeg a Galitieg. Ond gallai llywodraeth y Deyrnas Gyfunol ofyn am statws swyddogol ir Gymraeg yn yr un modd ac y gofynnodd lywodraeth Iwerddon am statws swyddogol ir Wyddeleg yn 2007. Eto, nid yw hwn yn fater o faint na niferoedd. Ym Melita, Saesneg ywr iaith swyddogol. Meliteg ywr iaith genedlaethol ond Saesneg yw iaith busnes a gweinyddiaeth gan fwyaf. Cynhaliwyd yr holl drafodaethau ar ymaelodi r Undeb Ewropeaidd yn Saesneg. Ond mae gan y Feliteg statws swyddogol yn yr Undeb Ewropeaidd.

    Rwyn dymuno gweld cydraddoldeb ir Gymraeg. Maen bwysig yn wleidyddol, yn symbolaidd ac yn economaidd hefyd. Edrychwch ar yr hyn a ddigwyddodd yn Iwerddon. Golygai cael statws swyddogol ir iaith Wyddeleg gymhwyso fel un or ddwy iaith swyddogol sydd ei angen arnoch er mwyn gweithio yn sefydliadaur Undeb Ewropeaidd. Gyda hyn fe gafodd yr iaith statws newydd ym myd addysg - chafodd Ffrangeg a Sbaeneg ddim eu cyflwyno fel pethau gwerthfawr mwyach. Newidiodd hyn agweddau tuag at yr iaith a dysgur iaith hefyd. Byddai hyn yn cynnig cyfleoedd newydd i bobl ifanc ac yn hwb enfawr ir diwydiant cyfieithu sydd eisoes yn llwyddiannus yng Nghymru. Ac ir sawl syn codi bwganod am y gost, maer gyllideb gyfan ar gyfer cyfieithu, gan gynnwys pedwar cant a hanner o gyfieithwyr ar y pryd a dros fil o gyfieithwyr ysgrifenedig yn dod i un y cant o gyllideb yr Undeb Ewropeaidd yn unig- sef cost paned o de ar gyfer pob un ohonom y flwyddyn!

    Ond fe allair sawl syn chwilio am doriadau, ddewis y gwastraff mwyaf amlwg o arian yn yr Undeb Ewropeaidd ohonyn nhw i gyd - dwy sedd. Maen parhau i fy rhyfeddu cyn lleied o bobl syn ymwybodol o hyn.

    Pan sefydlwyd y Gymuned Glo a Dur Ewropeaidd yn un naw pump dau, gwnaed hynny yn Lwcsembwrg. Lleolwyd Cyngor Ewrop yn Strasbwrg ac fe gafodd ei siambr drafod ei gynnig i'r corff newydd er mwyn ei ddefnyddio bob mis. Dyma oedd dechraur Senedd Ewropeaidd. Gwnaed gwaith y Comisiwn ar Cyngor ym Mrwsel felly teithiair Aelodau Seneddol Ewropeaidd fwyfwy i Frwsel. Erbyn y nawdegau, cyfarfu pob pwyllgor a grwp gwleidyddol ym Mrwsel ond cynhaliwyd y sesiwn agored misol yn Strasbwrg o hyd gan orfodir Senedd gyfan i deithio nl ac ymlaen rhwng y ddau le. Yn ystod y nawdegau, adeiladwyd swyddfeydd newydd gan lywodraeth Gwlad Belg ar gyfer Aelodau Seneddol ynghyd siambr drafod lawn. Heb eisiau cael eu trechu, adeiladodd lywodraeth Ffrainc senedd-dy newydd yn Strasbwrg maer senedd nawr yn ei berchen, felly dydyn ni ddim yn rhentu siambr o Gyngor Ewrop mwyach.

    Fodd bynnag, maer symudiad misol rhwng Brwsel a Strasbwrg ar gyfer y saith cant a chwedeg chwech o aelodau seneddol Ewropeaidd ar pum mil o staff yn costio cant chwedeg o filiynau o bunnoedd y flwyddyn ac yn allyrru pedair mil ar bymtheg o dunelli mewn carbon deuocsid. Pryd bynnag ddaw grwpiau o Gymru draw i ymweld r senedd cnt eu cythruddo gan hyn. Os ydych chithaun teimlo fel hyn hefyd, byddwch cystal mynd ar lein a llofnodwch y ddeiseb Un Sedd y mae dros filiwn o bobl wedi ei harwyddo eisoes.

    Maen debyg eich bod yn gofyn ich hun pam ydw innau, fel Aelod Seneddol Ewropeaidd , yn cwyno am hyn pan allair Senedd stopio hwn. Maer ateb i hynnyn amlygu un o ddiffygion democrataidd yr Undeb Ewropeaidd- sef nad oes gan y Senedd yr hawl i newid cytundebau. Mae Senedd Ewrop wedi pleidleisio ar nifer o achlysuron i beidio theithio i Strasbwrg, ond oherwydd ei fod wedi ei ysgrifennu mewn ir Cytundeb fod yn rhaid i ni gwrdd yn Ffrainc ddeuddeg gwaith y flwyddyn does gyd a ni ddim pwer iw newid.

    Cafwyd un cyfnod bedair blynedd yn l pan wnaethon ni osgoi mynd i Strasbwrg pan ddymchwelodd nenfwd y siambr! Yn rhyfedd ddigon, dymchwelodd nenfwd y siambr ym Mrwsel hefyd ac maen cael ei drwsio ar hyn o bryd. Rhywbeth i wneud UKIP efallai?!!

    Jill Evans ASE

    Photo: Jill Evans