• Hafan
  • Amdanai
  • Y Wasg
  • Areithiau
  • Lluniau
  • Ffilmiau
  • Dolenni i wefannau eraill
  • Cwestiynau Cyffredin
  • Cynhadledd Wanwyn Plaid Cymru, Caerdydd
    Mawrth 8fed 2014

    Yn 1999, pan roedd sylw y rhan fwyaf o bobl ar ein Cynulliad Cenedlaethol newydd cawsom ganlyniad anhygoel arall yn yr etholiadau ewropeaidd. Eurig Wyn a fi a gafodd y fraint o gynrychioli Plaid Cymru am y tro Cyntaf yn Ewrop. Newidiodd hyn bopeth. Am y tro cyntaf roedd gan Gymru lais annibynnol, llais go iawn yn Ewrop: Aelodau oedd yn gweithio dros fudd cenedlaethol Cymru, yn atebol i neb ond pobl Cymru.

    Roedd y Senedd bryd hynny yn wahanol iawn ir un sydd gyda ni heddiw. Roedd gan yr Undeb Ewropeaidd 15 Aelod Wladwriaeth I gymharu 28 nawr. Roedd y rhan fwyaf o benderfyniadau yn cael eu gwneud gan benaethiaid y llywodraethau. Heddiw mae gan y senedd bwer deddfu dros bron popeth. Ond roedd na newid ar droed. Gorfodwyd y Comisiwn Ewropeaidd i ymddiswyddo ar l sgandal; roedd yr undeb ar drothwy helaethiad enfawr gyda gwledydd Dwyrain Ewrop yn ymuno r UE; ac roedd un ar ddeg o wledydd yn cynllunio undeb ariannol.

    Roedd yn glir bryd hynny na fyddai strwythur Ewrop, a ddyluniwyd ar gyfer chwe aelod wladwriaeth, yn gallu cynnal y straen o ugain aelod neu fwy. Sut symud ymlaen? Beth oedd ymateb yr Undeb Ewropeaidd ir broblem? Sefydlu grwp o Ddynion Doeth - ie wir i chi! Ar ddiwrnod rhyngwladol menywod! Am ffordd o adfer y berthynas rhwng yr Undeb Ewropeaidd ar bobl! Sdim rhyfedd bod pethau wedi dirywio.

    Dros y blynyddoedd, tro ar l tro, cafodd cyfleoedd eu colli I neud Ewrop yn fwy agored, yn fwy democrataidd, yn fwy effeithiol. Ond maen rhaid i ni wneud pethaun iawn. Oherwydd mae angen yr Undeb Ewropeaidd arnom ni yn fwy nac erioed or blaen. Mae Cymrun elwa oherwydd ei aelodaeth ar buddion a ddaw o gael yr Undeb Ewropeaidd yn bartner iddi. Rydyn ni ar ein hennill o Ewrop ond fe gyfrannwn ni iddi hefyd. Rydym yn genedl Ewropeaidd ddwyieithog fodern. Gallwn ddysgu pethau i wledydd eraill yn ogystal dysgu ganddyn nhw. Yr hyn sydd angen ei adeiladu yw partneriaeth gyfartal.

    Ydy, mae pobl Cymrun elwa drwy ei haelodaeth or Undeb Ewropeaidd, Mae 150,000 o swyddi yn dibynnu arno. Yn nhermau ariannol rydyn nin cael mwy yn l nac y byddwn yn ei roi mewn. Cydsefyll - Solidarity yw un o werthoedd sylfaenol yr Undeb Ewropeaidd gair estron yng ngwleidyddiaeth Prydain heddiw. Cafodd yr Undeb Ewropeaidd ei adeiladu ar sail cydsafiad rhwng y rhanbarthau cyfoethog ar tlawd. Ei nod yw creu cyfle cyfartal i bobl ymhob rhan o Ewrop. Mae tri chwarter Cymru yn cymhwyso i dderbyn y lefelau uchaf o ariannu oherwydd ei fod yn un o ranbarthau tlotaf Ewrop. Nid damwain yw hwn. Ni ddigwyddodd hwn oherwydd na allwn wneud yn well ond yn hytrach o ganlyniad I bolisiau economaidd Prydain au ffocws ar dde ddwyrain Lloegr. Mae angen llywodraeth yng Nghymru gydag uchelgais, gyda delwedd in cymryd allan or pydew tlodi hwn. Gyda chynllun economaidd i Gymru a fydd yn adeiladu ar dalentau, arloesiad a phrofiadau ein pobl, yn yr un ffordd a mae cenhedloedd bychain eraill wedi gwneud, gallwn fanteisio ar y cydsafiad hwnnw o Ewrop i adeiladu ein heconomi a dod i ware prif ran ar y llwyfan rhyngwladol.

    Rwyn falch iawn or hyn mae Plaid Cymru wedi ei gyflawni yn Ewrop. Fi oedd yr unig Aelod o Gymru i bleidleisio yn erbyn torri cyllideb yr Undeb Ewropeaidd, oedd hefyd yn golygu torrir arian fyddain dod i Gymru. Fi oedd yr unig Aelod o Gymru i wrthwynebu torri taliadau amaethyddol mae 80% on ffermwyr yn dibynnu arnyn nhw. Roedd y pleidiau eraill yn dilyn lein Llundain yn San Steffan, fe aethon nhw mor bell chefnogi diddymu ariannu rhanbarthol yr Undeb Ewropeaidd er mwyn cadwr arian yn nhrysorlys y Deyrnas Gyfunol. Byddai hynnyn cael effaith trychinebus. Siawns y bydden ni wedi gweld yr arian yna yn dod i Gymru. Ond ni lwyddodd Prydain mae gwledydd eraill yn deall Cydsafiad.

    Newid mawr y llwyddais i sicrhau statws rhannol swyddogol ar gyfer yr iaith Gymraeg yn Ewrop. Roedd yn gam mawr ymlaen ac fe lwyddon ni oherwydd bod Plaid Cymru yn rhan o Lywodraeth Cymrun Un. Roedd yn gamp, ond dyw e ddim yn ddigon. Rwyf eisiau cydraddoldeb ar gyfer ein dwy iaith. Fel cenedl Ewropeaidd mae gyda ni hawl i hynny. Ond maer achos economaidd yn un llethol. Ir sawl syn dweud na allwn ei fforddio, dwin dweud na allwn fforddio peidio. Mae miloedd on pobl ifanc yng Nghymru yn ddwyieithog fel mae pobl ifanc ar draws Ewrop. Pam, felly, mae pobl ifanc sydd yn siarad Ffrangeg ac Almaeneg, neu Sbaeneg a Saesneg neu Wyddeleg a Latfieg yn gymwys i weithio o fewn sefydliadaur Undeb Ewropeaidd fel pobl ddwyieithog tra nad yw pobl syn medru Cymraeg a Saesneg ddim? Ond ywr Gymraeg yn cyfrif? Er mwyn rhoir un cyfle I bobl Cymru, mae rhaid cael statws swyddogol llawn. Edrychwch ar esiampl Iwerddon. Ers ir iaith Wyddeleg gael statws swyddogol yn 2007, mae wedi dod hwb economaidd enfawr ir diwydiant cyfieithu , ir prifysgolion, i statws yr iaith yn y system addysg ac ir economi ehangach. Rwyf wedi lansio deiseb gael cefnogaeth ir cais ar gyfer sicrhau statws swyddogol ir Gymraeg yn Ewrop. Maen bryd i Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol a gweddill Ewrop gydnabod ein cenedl ddwyieithog.

    Maer Undeb Ewropeaidd yn orchest ryfeddol. Ond maen bryd iw newid.

    Mae ganddo iaith ei hunan.

    Dyw e ddim yn syndod bod pobl yn teimlo mor bell i ffwrdd or Undeb Ewropeaidd pan ywn siarad ei iaith ryfedd ei hun. Fe glywch am y CAP, cydlyniad, cyfgyfeiriant, ACTA, CITES, RoHS, TEN-T, NUTS 1, NUTS 2, NUTS 3 a WEE! Ac eto mae angen yr Undeb Ewropeaidd arnom i arwain y ffordd ar ymladd newid hinsawdd pan fyddwn angen cymryd camau positif a radical ar y lefel ryngwladol. Mae gan Gymru asedau naturiol a photensial anferth fel pwerdy ar gyfer ynni adnewyddadwy a rhaid iddi weithio gydar Undeb Ewropeaidd er mwyn datblygur potensial hwnnw. Mae angen buddsoddiad difrifol arnom mewn swyddi gwyrddion er mwyn adeiladu economi gynaliadwy. Fel llywydd grwp Cynghrair Rydd Ewrop yn y Senedd, gweithiaf yn agos gydar Gwyrddion ac eraill i hyrwyddor agenda hwn- i sicrhau na fyddwn yn colli golwg or argyfwng hinsawdd sydd yn un mor real r un economaidd.

    Nid yw ewro sgeptigaeth yn unigryw ir Deyrnas Gyfunol, a bun lledu ar draws Ewrop er na welwyd ewro ffobia ir un graddau ac y gwelwyd yn y DG. Yn bennaf o ganlyniad ir mesurau caledu sydd wedi achosi ac syn parhau i achosir fath drallod. Maer dystiolaeth yn dangos nad yw torri cyflogau, torri gwasanaethau cyhoeddus a gadael miloedd o bobl ifanc heb obaith yn ddatrysiad i unrhyw argyfwng. Deallaf pam fod pobl wedi colli ffydd yn yr Undeb Ewropeaidd, ond yn hytrach na cherdded i ffwrdd, dylid ei newid. Dynar ateb. Gwthiwyd yr UE iw derfynau gan yr argyfwng economaidd - symudwyd y ffocws o bobl i farchnadoedd. Rhaid i hynny newid.

    Gallwn ddechrau ym mis Mai gydag arbedion anferth - dros 150 miliwn y flwyddyn drwy atal y senedd rhag symud rhwng Brwsel a Strasbwrg. Sawl un syn sylweddoli bod y senedd yn ei chyfanrwydd yn mynd ar daith am bedwar diwrnod bob mis o Frwsel i Strasbwrg ac yna yn l eto. Mae hyn yn creu 19,000 tunnell o allyriannau CO2. Ceir siambr digon derbyniol ym Mrwsel ac eto mae yna adeiladau yn Strasbwrg sydd yn sefyll yn wag am 317 dydd y flwyddyn, ond syn parhau i gael eu gwresogi ai aerdymheru. Mae tri chwarter yr aelodau wedi pleidleisio i ddod r gwastraff gwarthus hwn o arian i ben. Ond ni allwn ei newid.

    Mae gan Senedd Ewrop bwerau cyd-benderfynu mewn bron pob rhan o bolisir UE. Ond does gyda ni ddim or pwerau i benderfynu ble y byddwn yn cyfarfod oherwydd ei fod wedi ei ysgrifennu mewn ir cytundeb. Mae llywodraethaur Undeb Ewropeaidd, gan gynnwys y Deyrnas Gyfunol yn caniatu ir sefyllfa chwerthinllyd yma i barhau. Rhaid i hwn ddod i ben.

    Dymuna Senedd Ewrop ennill ei phlwyf fel sefydliad syn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Maen bryd iddi ymddwyn fel un. Byddwn yn deddfu ar faterion hanfodol fel hawliau gweithwyr, cydraddoldeb, ailgylchu a gwastraff, yr amgylchedd, diogelwch bwyd & labelu bwyd, hawliau dynol, amaeth, pysgodfeydd ac iechyd cyhoeddus. Llywiais gyfraith newydd drwyr senedd ynglyn chyfyngur defnydd a wneir o gemegolion peryglus mewn nwydau trydanol ac electronig er mwyn iddyn nhw allu cael eu hailgylchun ddiogel ac yn hawdd. Felly pam mae cymaint o amser ac arian y senedd yn cael ei dreulio ai wario ar adroddiadau a elwir yn hunan-fenter. Yr hyn a olyga hynny yw bod Aelodau Seneddol Ewropeaidd yn ysgrifennu adroddiadau sydd yn mynd drwyr broses seneddol gyfan ond taw dim ond barn y senedd ydyn nhw ar ddiwedd y dydd. Dyddyn nhw ddim yn newid y gyfraith. Fe wnaethon ni ymdrin bron i 200 or adroddiadau hyn. Maen bryd ir senedd ganolbwyntio ar ei gwir bwrpas, sef deddfu mewn meysydd lle mae angen rheoleiddio rhyngwladol, fel ar faterion yn ymwneud ar Organebau a addaswyd yn enynnol (GMO) a newid hinsawdd.

    Un enghraifft o hynny, y gwn sydd o bwys mawr i bobl yng Nghymru, yw lles anifeiliaid. O ganlyniad i bwysau gan bobl yng Nghymru ac o lefydd eraill, llwyddom i gael gwaharddiad ar golur a brofwyd ar anifeiliaid. Maer Comisiwn wedi llunio cyfraith gynhwysfawr ar les anifeiliaid a gaiff ei drafod yn ystod y misoedd i ddod. Mae hwn mor bwysig fy mod yn credu ei fod yn hen bryd i ni gael Comisiynydd a chanddo gyfrifoldeb dros les anifeiliaid. Byddai hyn nid yn unig yn golygu bod y materion yman cael eu trin yn gywir o dan gyfraith yr UE ond byddai hefyd yn danfon neges glir i weddill y byd fod yr UE yn cymryd lles anifeiliaid o ddifrif.

    Yr hyn syn sylfaenol i Blaid Cymru yw taw nid yn Ewrop yn unig y mae ein dyfodol ond bydd Prif Weinidog y DG yn pleidleisio yn hytrach, mewn Ewrop newydd a gwell. Cyhyd ac y bydd Prif Weinidog y Deyrnas Gyfunol yn pleidleisio dros Gymru yng Nghyngor Ewrop ni chaiff buddiannau Cymru eu hystyried o ddifrif o gwbl. Cawsom enghraifft noeth o hyn yn ddiweddar pan adawyd Cymru oddi ar fap ffyrdd trafnidiaeth allweddol Ewrop, Bydd Cymru ar ei cholled hyd nes i ni gael ein llais an pleidlais ein hunain.

    Dyw e ddim yn gyfrinach bod Plaid Cymrun awyddus i gadw Cymru yn yr Undeb Ewropeaidd ond dymunwn weld y newid mwyaf radical hefyd - dymunwn weld Cymru yn dod yn aelod wladwriaeth annibynnol a chanddi lais a phleidlais yn y Cyngor, gyda 9 ASE yn lle 4 an Comisiynydd ein hunain. Gweithiwn gydan chwaer bleidiau ar draws Ewrop i wirioneddur nod hwn, fel yr SNP ar Catalaniaid. Bydd yr Alban yn ymuno r UE fel Aelod Wladwriaeth annibynnol pa beth bynnag a ddywed y r Arlywydd Barroso. Bydd Cymrun torri cwys ei hun; gallaf eich sicrhau chi na chawn ein gadael tu l.

    Ym Mhlaid Cymru, deallwn fod project yr UE yn cwmpasu cymaint mwy nac arian yn unig. Rwyn falch o hyrwyddo Cymru yn yr UE. Rwyf wedi cynnal nifer o arddangosfeydd a digwyddiadau. Cymaint hyd nes bod cornel yn Senedd Ewrop syn dwyn yr enw, Y Gornel Gymreig!

    Mae project yr UE hefyd yn ymwneud democratiaeth a chyfiawnder wrth gwrs yn ogystal heddwch. Bydd eleni yn cofnodi can mlynedd ers dechraur Rhyfel Byd Cyntaf. Ganrif yn l roedd rhyfel erchyll ar fin dechrau: rhyfel a achosodd farwolaethau a dinistr tu hwnt in dychymyg. Yn 2012, enillodd yr UE Wobr Heddwch Nobel am y rhan y mae wedi chwarae wrth gadw heddwch yn Ewrop. Chwarddodd nifer o bobl ar hyn. Ond credaf fod eleni yn flwyddyn arbennig ac yn gyfle ir UE sefydlu rl newydd iw hun. Yn lle symud tuag at sefydlu byddin Ewropeaidd, fel y dymuna rhai, beth am sefydlu corfflu heddwch sifil Ewropeaidd - nid milwyr ond athrawon, peirianwyr, cyfreithwyr ar holl bobl hynny all weithio mewn meysydd o wrthdaro posib er mwyn atal trais a chynyddu dioddefgarwch a dealltwriaeth

    Yn Ewrop mae dyfodol Cymru. Byddwn ryw ddydd yn genedl annibynnol yn Ewrop. Hyd hynny, byddwn yn gweithio dros greur math o Ewrop gall Cymru gymryd ei lle ynddi. Y cam nesaf ywr etholiadau Ewropeaidd. Byddant yn digwydd ymhen 74 diwrnod. Byddaf yn ailadrodd ein neges taw Plaid Cymru ywr unig Blaid sydd yn diogelu budd cenedlaethol Cymru yn Senedd Ewrop. Golyga hyn tawr unig blaid sydd yn rhoi buddiannau Cymrun gyntaf yn Senedd Ewrop. Mae yna job o waith iw wneud ac rydym yn barod amdano. Rwyf innau ar tm o ymgeiswyr yn barod am yr her. Rydym ni o ddifrif. Hoffwn ddiolch ir sawl un ohonoch sydd eisoes yn gweithio mor galed ar gyfer yr etholiad ac fech anogaf chithau, syn dymuno cymryd rhan, i ddod i gyswllt.

    Maen destun balchder gen i fy mod yn Aelod Seneddol Ewropeaidd i blaid sydd yn edrych tuag allan ac yn flaengar yn ei ffordd o feddwl. Awn i mewn ir etholiadau hyn gyda hyder, gan wybod y gallwn adeiladu Cymru well o fewn Ewrop well. Yr unig blaid syn rhoi Cymrun gyntaf - bob tro.

    Diwedd.

    Ffoto: Jill Evans