• Hafan
  • Amdanai
  • Y Wasg
  • Areithiau
  • Lluniau
  • Ffilmiau
  • Dolenni i wefannau eraill
  • Cwestiynau Cyffredin
  • Cynhadledd Flynyddol 2013 Plaid Cymru
    Aberystwyth
    Hydref 12 2013

    Aberystwyth oedd "adre" i fi am dair blynedd pan roeddwn i'n fyfyriwr yma. Yn Aberystwyth yr ymunais i ym 1977 Phlaid Cymru yng ngwyl y glas pan gychwynnais i yn y coleg. Yma yr ymgyrchais i dros Dr Dafydd Huws yn etholiad Ewropeaidd 1979, fy ymgyrch Ewropeaidd gyntaf i. 1979 oedd y flwyddyn y sylweddolais i faint o waith oedd i'w wneud. Prin y gallwn i ddychmygu y buaswn i o fewn ugain mlynedd yn cymryd fy sedd innau fel ASE cyntaf Plaid Cymru ar l i ni gael ein canlyniad gorau erioed nl yn 99.

    Dyma'r gynhadledd flynyddol olaf cyn i'r etholiadau Ewropeaidd gael eu cynnal ym Mis Mai 2014. Mae un o'r pedair sedd Gymreig wedi bod yn eiddo i ni ers 2004 ac yn sicr dwi ddim yn bwriadu iddi ein gadael ni nawr! Rydym ni wedi llwyddo i gael momentwm anhygoel dros y misoedd diwethaf, momentwm sydd wedi ein galluogi ni i ennill buddugoliaethau penigamp yn Ynys Mn ac ym Mhenyrheol ac mae angen i ni gario'r momentwm yma ymlaen drwy'r etholiadau Ewropeaidd, drwy etholiadau San Steffan, yr holl ffordd i 2016, pan fydd Leanne Wood yn Brif Weinidog dros Gymru.

    Fe newidiodd Plaid Cymru'r stori wleidyddol yng Nghymru ar Ewrop. Rydym ni wedi sicrhau na all unrhyw blaid ag iddi unrhyw fath o hygrededd, ddadlau'r ffaith fod Cymru yn elwa'n ariannol o fod yn yr Undeb Ewropeaidd. Nid celwydd yw'r ffigyrau. Maen nhw'n glir, fe all pawb eu gweld. Pan gyhoeddais i'r ymchwil yn dangos hyn, doedd gan neb ddadleuon yn erbyn. Yr hyn oedd yr un mor arwyddocaol oedd mai ni oedd yr unig rai wnaeth hyd yn oed edrych ar y mater. Fe wnaeth hyn brofi mai dim ond ni, Plaid Cymru - the Party of Wales, sy'n cynrychioli budd cenedlaethol Cymru yn Ewrop.

    Mae gweledigaeth Plaid Cymru yn Ewrop yn syml; un o wlad annibynnol, yn Aelod Wladwriaeth, a sedd gan Gymru wrth y bwrdd trafod 'i phleidlais ei hun ar ddyfodol Ewrop. Ar hyn o bryd, yng Nghyngor Ewrop, llywodraeth Prydain sy'n ein cynrychioli. Does dim rhaid i fi ddweud wrthych chi fod budd cenedlaethol Cymru'n wahanol iawn i flaenoriaethau llywodraeth Brydeinig o ba bynnag blaid. Os nad ydyn ni yna i siarad dros Gymru, yna ni wnaiff neb.

    Ar hyn o bryd mae gan Gymru 4 ASE sy'n cynrychioli dros 3 miliwn o bobl. Pe bai Cymru yn Aelod Wladwriaeth annibynnol, fe fyddai ganddi naw. Meddyliwch am yr hyn a allen ni ei gyflawni gyda naw! Rydym ni am gael cyfle cyfartal, ar dir gwastad gyda chenhedloedd eraill yr UE. Wedi'r cyfan, mae chwech ohonynt yn llai na Chymru. Rydym ni am gael yr un manteision a'r dylanwad sydd ganddyn nhw. Dyna yw ein hawl ni.

    Mae ein llais ni yn gryfach oherwydd ein haelodaeth o Gynghrair Rydd Ewrop neu EFA. Gyda'r Gynghrair, rydym ni'n gweithio dros gyfle cyfartal i holl bobloedd y byd, dros yr hawl i ddewis ein dyfodol a dros greu Ewrop mwy agored a democrataidd. Mae hi'n gyfnod cyffroes i EFA. Mae'r Alban yn gweithio tuag at gael eu derbyn fel Aelod Wladwriaeth rhif 29. Bydd llywodraeth Catalwnia yn penderfynu ar eiriad cwestiwn ei refferendwm annibyniaeth nhw cyn diwedd y flwyddyn. Wrth i lais pobl Catalwnia gryfhau, yn mynnu ei annibyniaeth, mae llais llywodraeth Catalwnia hefyd yn cryfhau i sicrhau hyn.

    Rwy'n siwr i chi weld y lluniau o'r gadwyn 400km o hyd, Llwybr Catalwnia, a chrewyd gan bobl Catalwnia fis Medi. Roedd yn ymestyn ar hyd y wlad, fel atgof o Lwybr Baltig yr 80au a arweiniodd at eu hannibyniaeth nhw a thrawsnewidiad Ewrop. Mae'r awch am ddemocratiaeth mor fyw nawr ag erioed.

    Rwy'n deall pam fod pobl yn Ewrosgeptic. Rydym ni oll yn gyfarwydd 'r sylw gwael a gaiff yr UE yn y wasg. Gan fwyaf, ffuglen wedi ei greu gan beiriant UKIP - maddeuwch i mi, gan beiriant y wasg Brydeinig ydyw wrth gwrs. Yn sicr, mae'r wasg Brydeinig mor hoff o greu chwedlau newydd am yr UE, bu rhaid i'r comisiwn Ewropeaidd greu blog i'w gwrthddweud! Yn anffodus, prin yw darllenwyr y blog o'i gymharu r niferoedd sy'n darllen y straeon yn y papurau newydd. Mae'n anrhydedd cael bod yn ASE dros blaid sy'n gweld gwerth partneriaeth a chyd-weithio yn Ewrop. Wrth gwrs, mae 'na sawl agwedd o'r UE y dylid eu newid - rydym ni wedi galw ers amser am hynny. Ni, trethdalwyr Ewrop sy'n gwario miliynau ar y daith fisol rhwng Strasbwrg a Brwsel - gwastraff arian ac amser. Rhaid gwella'r cyfleoedd sydd yna i fusnesau bach Cymru gael gafael ar gefnogaeth, cefnogaeth hanfodol i ailadeiladu'n heconomi. Rydym hefyd yn galw am ail siambr i'r senedd Ewropeaidd, lle bydd rhanbarthau a chenhedloedd Ewrop oll yn cael eu cynrychioli. Ydyn, rydyn ni'n ymgyrchu dros newid, ond newid fydd yn fudd i holl bobl Cymru. Mae manteision bod yn aelod o'r UE yn llawer mwy na'r dewis arall - unigedd.

    Mae'n bosibl, wrth gwrs, bydd refferendwm ar aelodaeth Prydain o'r Undeb Ewropeaidd yn 2017. Dylen ni ddim ofni hynny. Ond mae rhaid i'r drafodaeth yng Nghymru edrych ar fudd cenedlaethol Cymru. Plaid Cymru ydyn ni. Rydyn ni'n rhoi pobl Cymru gyntaf - bob tro. Dyna'r hyn mae pobl Cymru yn ein hethol i'w wneud. Rydyn ni wedi bod yn yr Undeb Ewropeaidd ers deugain mlynedd. Roeddwn i dipyn bach yn rhy ifanc i bleidleisio ar ein haelodaeth o'r Gymuned Economaidd Ewropeaidd, fel roedd hi ar y pryd. Ond rwy'n cofio'r ddadl am aelodaeth - a'r ffaith bod dim gair ym Mhapur Gwyn llywodraeth Prydain am yr effaith ar Gymru. Dydyn ni ddim am adael i hynny ddigwydd eto.

    Fe wnaeth Leanne ein hatgoffa mor bwerus ddoe am y rheswm dros sefydlu'r prosiect Ewropeaidd yn y lle cyntaf a pha mor bell mae Ewrop wedi dod ers hynny. Y flwyddyn nesaf, byddwn yn nodi can mlynedd ers dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf. 74 o flynyddoedd y mis diwethaf dechreuodd yr Ail Ryfel Byd. Dim ond 24 o flynyddoedd yn l daeth Wal Berlin i lawr i uno Ewrop.

    Ym 1998, wrth dderbyn Gwobr Nobel dros Heddwch, adroddodd John Hume o Iwerddon, cyn gyd-aelod gyda fi yn Senedd Ewrop, yr hanes o'i wythnos gyntaf yn y senedd yn Strasbwrg fel Aelod Seneddol Ewropeaidd, flynyddoedd gynt. Fe aeth am dro dros y bont rhwng Strasbwrg a Kehl. Mae Strasbwrg yn Ffrainc a Kehl yn yr Almaen. Maen nhw'n agos iawn at ei gilydd. Stopiodd ar ganol y bont ac edrych y naill ffordd a'r llall. Meddyliodd "Pe bawn i wedi sefyll yn y man hwn ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, a phump ar hugain o filiynau o bobl yn gorwedd yn farw ar draws y cyfandir am yr ail dro mewn canrif, a phe bawn i wedi dweud 'Paid poeni! Ymhen tri deg o flynyddoedd fe fydden ni i gyd gyda'n gilydd mewn Ewrop newydd, y gwrthdaro a'r rhyfeloedd drosodd ac yn cydweithio er lles pawb', byddai pobl yn meddwl fy mod wedi'i cholli hi ac yn galw am seiciatrydd! Ond mae e wedi digwydd". Roedd John Hume yn gywir bryd hynny ac mae ei eiriaun atseinio heddiw yn fwy nag erioed.

    Mae'r Undeb Ewropeaidd yn bell o fod y math o undeb y dymunwn amdani, ond ein hundeb NI yw hi. Maer Senedd Ewropeaidd yn senedd i bobl Cymru gymaint 'i fod yn senedd i unrhyw genedl arall. Mae rhaid i ni ei adennill i bobl Cymru a phobl Ewrop i gyd. Er gwaetha'r rhwystredigaeth o gynrychioli cenedl sy ddim eton gallu chwarae ei rhan lawn yn Ewrop, rwy'n atgoffa fy hun yn gyson taw rhywbeth i'w drysori yw cydweithio'n heddychlon ar draws ffiniau, gyda'r brodwaith o ieithoedd a diwylliannau sy'n gwneud Undeb Ewrop mor arbennig.

    Mewn ffordd ymarferol, mae Ewrop wedi rhoi'r rhyddid i ni i deithio, i fyw, i astudio a gweithio mewn gwledydd eraill - a'r un rhyddid i bobl o wledydd eraill gyfrannu at ein cymdeithas yng Nghymru. Dydyn ni ddim yn cefnogir math o wleidyddiaeth sy'n creu ofn ac atgasedd rhwng pobl.

    2014 yw canmlwyddiant dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf. Amser i gofio ac edrych ymlaen at greu byd gwell ac ar ddyfodol Ewrop. Rwy'n credu y dylen ni ail gydio yn y rl o gadw'r heddwch. Yn bendant, does dim awydd gyda ni i weld yr Undeb Ewropeaidd yn symud yn fwy tuag at filitariaeth. Yn hytrach, mae angen symud mewn cyfeiriad hollol wahanol: gan rwystro anghydfod a gwrthdaro. Dyna pam y galwn eto am sefydlu llu heddwch sifil yn Ewrop - dim milwyr ond meddygon, athrawon, peirianwyr - pobl 'r sgiliau i helpu adeiladu cymunedau ac adeiladu dealltwriaeth a goddefgarwch ymhlith pobl - yn gweithio law yn llaw 'r Cenhedloedd Unedig. Dyna'r ffordd i nodi'r drasiedi - trwy greu dyfodol gwell a gwahanol.

    Ar drothwy canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, pa ffordd well i'w ddathlu nag i greu llu heddwch i'r UE, i leddfu tensiynau ac i feithrin dealltwriaeth rhwng pobloedd. Er mwyn i heddwch lwyddo, rhaid cael cyfiawnder. Rwyf wedi gwrthwynebu toriadau llymder sydd wedi dod chaledi i gymaint. Dyma'r amser i fuddsoddi mewn pobl, i greu swyddi ac i ailadeiladu Ewrop. Mae angen i ni newid y system heddiw, er mwyn sicrhau economi, diwylliant ac amgylchedd cryf ar gyfer yfory.

    Credwn mewn annibyniaeth, nid dibyniaeth. Nid yw Cymru yn wlad dlawd, ond yn wlad sydd wedi cael ei gwneud yn dlawd oherwydd polisau Llywodraeth Lundeinig. Cafodd ein cyfoeth ei dynnu allan o Gymru. O ganlyniad, parhau i ostwng mae ein Cynnyrch Gwladol Crynswth. Ar hyn o bryd, mae e'n 70% o gyfartaledd Ewrop. Fodd bynnag, wnaeth Ewrop erioed ein siomi ni. Mae'n hawdd anghofio nad yr UE sy'n gorchymyn sut y dylid gwario arian Ewropeaidd. Llywodraeth Cymru sy'n penderfynu ar y gwariant. Nhw ddylai ysgwyddor bai am y diffyg gwelliant. Plaid Cymru yw'r unig blaid ag unrhyw fath o uchelgais dros Gymru. Yn yr un modd ag y llwyddodd Gwlad y Basg oresgyn ei phroblemau economaidd gyda syniadau newydd a chynllun hirdymor, gall Plaid Cymru gynnig atebion unigryw sy'n adeiladu ar ein cryfderau ni, ein talentau ni a'n harbenigrwydd ni yng Nghymru, gan weithio tuag at greu dyfodol i ni'n hunain yn Ewrop. Mae angen Llywodraeth ddeinamig, Llywodraeth Plaid Cymru a all daclo ein problemau ni heb ofn. Yn lle rhoir bai ar bobl eraill, gan wneud esgusodion dros beidio a gweithredu, ein cyfrifoldeb ni yw gweithredu ein hunain.

    Mae yna ardaloedd yng Nghymru sydd bron i 50% o'u pobl ifanc yn ddi-waith. Nid yw hwn yn dderbyniol. Dymar rheswm pam ein bod yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i gyflenwi swyddi a hyfforddiant in pobl ifanc. Dyle'u bod nhw'n lobo i gael yr arian Ewropeaidd sydd ar gael ar gyfer ardaloedd mewn angen dyrys.

    Cam nesaf y blaid hon, a'r cam nesaf i sicrhau Cymru well, yw llwyddo yn etholiadau Ewropeaidd fis Mai. Dyma'r cam nesaf i Ewrop well hefyd. Rydym ni eisiau rhoi'r pwer i bobl Cymru gael benderfynu eu hunain ar sut i redeg ein materion gwleidyddol, materion economaidd a'n materion cymunedol ni - i fod yn rhydd i ffurfio Cymru sy'n cael ei ddal yn l gan ein dychymyg ni yn unig - i gynrychioli ni ein hunain, ac i ddangos i Ewrop y gallwn ymuno gwledydd bychain eraill sy'n llwyddiannus yn ei hanterth i greu llewyrch. Mae gyda ni weledigaeth o Gymru fywiog, lwyddiannus, llewyrchus, ddwyieithog - gwlad Ewropeaidd fodern.

    Mae cael gwasanaethu'r Blaid hon a'r wlad hon yng nghalon Ewrop wedi bod yn fraint ac yn anrhydedd. Braint hefyd yw cael arwain tm mor abl o ymgeiswyr ar gyfer etholiadau mis Mai a sicrhau'r canlyniad gorau erioed i'r Blaid ac i Gymru.

    Jill Evans ASE

    Photo: Jill Evans