• Hafan
  • Amdanai
  • Y wasg
  • Areithiau
  • Lluniau
  • Ffilmiau
  • Dolenni i wefannau eraill
  • Yr Academi Heddwch, Caerfyrddin
    Tachwedd 20ain 2009

    Diolch.

    Cynhadledd undydd diddorol iawn heddiw gan y Blaid yn edrych ar bolisiau diogelwch yn cynnwys yr Academi Heddwch.

    Sbardunwyd y syniad o Academi Heddwch gan y sioc a’r siom a fynegwyd gan lawer o bobl pan gyhoeddwyd bod Academi Milwrol yn cael ei adeiladu yn Sain Tathan, bro Morgannwg. Mae Sain Tathan yn gynllun PFI anferth – preifateiddio hyfforddiant milwrol trwy Brydain a’i ganoli ar un safle. Bydd y cynllun yn cael ei rheoli gan y Weinyddiaeth Amddiffyn ond bydd y consortiwm Metrix yn darparu’r hyfforddiant. Mae gan Metrix 13 o bartneriaid yn cynnwys Laing O’Rourke, QinetiQ, Raytheon ac Augusta Westland sydd a chysylltiadau amlwg a’r diwydiant arfau. Arbed arian oedd amcan y llywodraeth ond gwneud arian yw amcan y cwmniau, wrth gwrs.

    Er bod ‘na lawer o lobio, ac aelodau seneddol Llafur yn enwedig yn gweithio’n galed i sicrhau bod Metrix a Sain Tathan yn ennill y bid, doedd dim llawer o ymwybyddiaeth bod y broses yn mynd ymlaen. Doedd dim trafodaeth neu bleidlais yn Nhy’r Cyffredin a doedd dim ymghynghori a llywodraeth y Cynulliad ymlaen llaw chwaith.

    Amcangyfrif bydd yr Academi yn costio biliynau o bunnau i’w sefydlu a’i rhedeg. Roedd yr hyfforddiant wedi’i rhannu mewn dau rhan neu becyn – mae Metrix wedi ennill y cytundeb i ddarparu’r pecyn cyntaf, ond mae’r ail becyn wedi’i ganslo yn barod oherwydd y gost. Y bwriad yw symud yr holl hyfforddiant yma i Sain Tathan dros y pum mlynedd nesaf. Roedd Metrix yn hawlio mai hwn oedd y buddsoddiad sengl mwyaf erioed yng Nghymru. Roedden nhw’n amcangyfrif hefyd y byddai’n creu tua 5,000 o swyddi gwerth £60 o filiynau bob blwyddyn i’r economi lleol.

    Roedd rhai ohonon ni yn erbyn y cynllun yma mewn egwyddor beth bynnag. Mae gyda ni draddodiad o heddwch yng Nghymru – ac i fi fel aelod o’r Blaid, mae gennyn ni fel Plaid draddodiad a hanes o wrthwynebu datblygiadau milwrol o’r math yma. Ond doedd dim pwer gyda ni yng Nghymru i’w rhwystro – penderfyniad a wnaed yn Llundain oedd hwn.

    Ond hyd yn oed i’r rhai oedd yn fodlon derbyn datblygiad felly, fe ddaeth yn amlwg yn weddol fuan bod problemau mawr. Ar wahan i ganslo’r ail becyn, bu rhaid i’r llywodraeth rhoi £45 miliwn yn ychwanegol i’r consortiwm yn barod i’w gadw fe mewn busnes. Fe gafodd yr honiadau am swyddi ei chwyddo i chwech a saith cant, ond yn fuan iawn roedd y ffigurau yn disgyn i dair mil, dwy fil a hanner….a neb yn fodlon dweud faint o’r swyddi byddai’n mynd i bobl lleol a pha fath o swyddi – athrawon neu glanheuwyr.

    Datgelwyd y byddai unrhyw wladwriaeth yn y byd yn gallu prynu hyfforddiant yn Sain Tathan – digon o arian oedd yr unig amod.

    Ac ar ben hynny roedd cefnogwyr y prosiect yn ymosod yn hollol afresymol ar y rhai ohonon ni oedd naill ai yn ei wrthwynebu neu dim ond yn gofyn cwestiynau, hyd yn oed.

    Nol yn 2008 roeddwn i’n trafod hwn gyda cyn aelod Senedd Ewrop o Fflandrys, Nelly Maes. Roedd hi’n deall yn iawn gan eu bod nhw yn senedd Fflandrys wedi cael sgandal mawr gyda trwyddedau arfau. Fe benderfynon nhw sefydlu Sefydliad Heddwch yn 2004 i sicrhau bod dim byd tebyg byth yn gallu digwydd eto ac i sicrhau bod polisiau Senedd Fflandrys yn unol a’i dymuniad i gyfrannu at heddwch a chyfiawnder byd eang.

    Erbyn hyn mae Nelly yn gyfarwyddwr y Sefydliad. Mae’n anibynnol ond mae’n cael ei ariannu gan y senedd (ddim y llywodraeth). Ei rol yw ymchwilio a pharatoi adroddiadau ar heddwch, diarfogi a datrys gwrthdaro – yn y gymdeithas yn ogystal ac ar lefel rhyngwladol – ac i edrych yn arbennig at oblygiadau polisiau neu gweithredoedd y senedd neu’r llywodraeth. Mae’r senedd yn gorfod ystyried cyngor y Sefydliad ar sawl maes polisi. ‘Does dim rhaid iddynt ddilyn y cyngor, ond os nad ydynt, mae rhaid esbonio mewn ysgrifen pam ddim. Mae’r Sefydliad hefyd yn casglu gwybodaeth ar heddwch sydd ar gael i’r cyhoedd. Mae’n gwneud gwaith addysg heddwch yn uniongyrchol gyda ysgolion.

    Roedd y Sefydliad Heddwch yn amlwg wedi gwneud gwahaniaeth mawr i’w senedd nhw. Roedden nhw’n gallu – yn gorfod – gweld effaith eu penderfyniadau nhw ar bobl, ar yr amgylchedd, ar wledydd eraill.

    Roeddwn i’n gallu gweld y potensial i rhywbeth tebyg yng Nghymru. Yn yr un modd a mae’r ymrwymiad i ddatblygu cynaladwy wedi llywio gwaith i Cynulliad, byddai Academi Heddwch yn gwneud gwleidyddion yn ymwybodol o wir effaith eu penderfyniadau – neu yn achos Sain Tathan, penderfyniad San Steffan. Ni fyddai’n bosibl wedyn i brosiect fel hwn gael ei werthu ar sail maint y buddsoddiad a’r nifer o swyddi pontensial yn unig. Byddai rhaid ystyried yr effaith ar y gymuned lleol, ar yr amgylchedd, ar iaith a diwylliant, ar yr economi cyfan ac ar ddelwedd Cymru yn rhyngwladol, yn ogystal.

    Felly ym mis Ionawr eleni fe drefnais i i grwp o Gymru i ymweld a’r Sefydliad Heddwch ym Mrwsel i ddeall mwy am ei waith. Wedi ysbrydoli gan yr hyn rodden ni wedi’i weld, fe drefnwyd cyfres o gyfarfodydd Cynefin y Werin ac eraill i ddatblygu’r syniad i Gymru. Mae llawer o drafodaeth wedi bod! Fel sy’n digwydd yn aml iawn, mae gan bawb ei syniad ei hun o ba fath o sefydliad sydd eisiau. Roedd yn rhaid cael ffocws i’r gwaith, neu byddai fe ddim yn gweithio o gwbl. Er bod ni eisiau corff sydd yn gallu cyfrannu at sustem addysg heddwch gwell a chydweithio gyda mudiadau eraill, i fi yr elfen bwysicaf yw ei fod yn gallu rhoi cyngor i’r Cynulliad. Dyna beth sy’n mynd i newid nid yn unig polisiau unigol ond diwylliant gwleidyddiaeth yng Nghymru.

    Fe lwyddon ni i baratoi cynnig yn amlinellu Academi Heddwch i Gymru – a penderfynwyd ei alw yn Academi yn Gymraeg ac Institute yn Saesneg. Yn dilyn trafodaethau gyda rhai gwleidyddion o’r Cynulliad, fe gyflwynwyd ein cynnig fel deiseb i’r pwyllgor deisebau yn y Cynulliad diwedd y mis diwethaf, gyda dros 1,500 o unigolion yn ei gefnogi. Fe aeth e mewn yn enw Cymdeithas y Cymod, y Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru, Cynefin y Werin ac CND Cymru. Mae’r deiseb wedi’i dderbyn a chaiff ei drafod yn y flwyddyn newydd. Mae’n bosibl iawn y bydd gwahoddiad yn mynd i Sefydliadau Heddwch eraill i rhoi tystiolaeth i’r pwyllgor am eu gwaith.

    Mae sawl Academi neu Sefydliad Heddwch yn y byd. Un o ddiddordeb arbennig i ni yng Nghymru yw’r un yn ynysoedd yr Aland yn y Baltic – rhan o’r Ffindir ar hyn o bryd ond sydd yn gweithio dros anibynniaeth. Mae ganddyn nhw sefydliad sydd yn edrych nid yn unig ar heddwch ond yn ogystal ar hawliau lleiafrifoedd ac ar hunan lywodraeth. Mae’r ynysoedd eu hunain yn ardal niwtral a demilitarised. Rwy’n trefnu cwrdd a’r Sefydliad yn yr Aland yn y flwyddyn newydd hefyd – pan mae’r tywydd yn caniatau!

    Ac rydyn ni’n gobeithio gwahodd pobl o’r Sefydliadau eraill i Gymru i siarad am eu profiadau a’u gwaith nhw pan ddaw’r pwnc yma lan yn y pwyllgor. Yn y cyfamser rydyn ni’n gweithio yn galed i godi ymwybyddiaeth o’r cynnig yma a chynyddu’r cefnogaeth. Rydw i’n cydlynu yn agos gyda phobl Fflandrys, fydd yn trefnu cynhadledd fawr ym Mrwsel yn ail hanner y flwyddyn nesaf yn ystod llywyddiaeth Gwlad Belg o’r Undeb Ewropeaidd. Maen nhw’n gwahodd pobl o ben draw’r byd ac rwy’n benderfynol y bydd gyda ni gynrychiolaeth o rhyw fath o Gymru yno i gyfrannu at y drafodaeth ac i ddysgu wrthyn nhw.

    Rwy’n credu bod llawer ohonon ni wedi ein ysbrydoli gan y syniad am Academi Heddwch. Mae gyda ni i gyd ddigon o brotestio ac ymgyrchu o’n blaenau – yn erbyn Sain Tathan, yn erbyn Trident, ac yn y blaen. Mae hwn yn gyfle i ddod a gwleidyddion, mudiadau a chyrff gwahanol a chymunedau at ei gilydd mewn ymgyrch bositif. Mae e hefyd yn rhywbeth gallen ni ei ennill – yn eitha posibl erbyn etholiadau’r Cynulliad yn 2011. Ac mae hynny yn brofiad gwahanol i ni yn y mudiad heddwch – nid ennill ond ennill mewn cyfnod mor fyr!

    Rwy’n gobeithio eich bod chi hefyd wedi’ch ysbrydoli gan y syniad yma a byddwch chi yn fodlon bod yn rhan o’r ymgyrch. Rydyn ni fel cenedl eisiau cyfrannu at heddwch a chyfiawnder byd eang. Bydd Academi Heddwch yn ffordd i Gymru wneud hynny.

    Jill Evans ASE

    Photo: Jill Evans