Llywydd,
Roeddwn i’n aelod o’r ddirprwyaeth a deithiodd i Gaza’r wythnos ddiwethaf i weld y difrod. Mae cynnig y senedd heddiw yn canolbwyntio ar weithredu’n ddyngarol, ac mae angen gwneud hynny yn ddirfawr. Mae hwn yn wir argyfwng dyngarol ac mae angen mynd i’r afael ag ef ar frys. Mae 90% o bobl Gaza yn ddibynnol ar gymorth gan y Cenhedloedd Unedig. Does dim cyswllt rhwng hynny ag unrhyw drafodaethau, mae hwn yn argyfwng daer. Bydd codi’r gwarchae ac ail-agor y mannau croesi yn allweddol i allu darparu’r cymorth. Sut gellir dechrau adfer ardal ddwys ei phoblogaeth, sydd ag 1.5 miliwn o bobl ac a gafodd ei fomio am 22 diwrnod - ac a welodd dros 1000 o farwolaethau - pan ganiateir 15 categori yn unig i mewn o eitemau cymorth dyngarol - bwyd, rhai meddyginiaethau a matresi yn bennaf? Gallwch chi ddim ail-adeiladu cartrefi a swyddfeydd heb sment a gwydr - ac mae’r rhain wedi eu gwahardd. Gallwch chi ddim dysgu plant mewn ysgolion sydd heb bapur - sydd wedi ei wahardd. Gallwch chi ddim bwydo pobl pan nad oes digon o fwy d yn cael ei adael i mewn. Mae’r cymorth ar gael ond dyw e’ ddim yn cael ei adael drwodd. Rhaid i ni roi pwysau ar Israel i ddod â’r gwarchae i ben ac agor yr holl fannau croesi.
Ac mae’n rhaid i unrhyw asesiad o’r niwed a achoswyd yn Gaza dynnu sylw at y targedu bwriadol a wnaed i ddinistrio’r isadeiledd a’r economi - gwelsom ysgolion, ffatrïoedd, cartrefi ac ysbyty a ymosodwyd arnyn nhw’n fwriadol. Unwaith eto, rydym wedi bod yn dyst i ddinistr gan Israel o brojectau a ariannwyd gan yr Undeb Ewropeaidd. Yn lle cymryd camau ynglyn â hyn, rydym yn sôn am uwchraddio ein perthynas fasnach gydag Israel er bod yr amodau ynglyn â hawliau dynol yn amlwg yn cael eu torri o dan y cytundeb presennol.
Dywedodd Mr Solana gallai dilyn yr un polisïau ddod â ni ‘nôl i’r un lle. Rwy’n cytuno. Gwrthododd yr Undeb Ewropeaidd gydnabod llywodraeth undod Palestina yn 2006 a oedd yn cynnwys aelodau Hamas. Ond rydym ar fin cydnabod llywodraeth newydd Israel allai gynnwys aelodau sydd yn ymwrthod â datrysiad dwy wladwriaeth - nad sy’n cefnogi gwladwriaeth i Balestina.
Yr hyn sy’n hanfodol nawr yw bod yn rhaid i’r Undeb Ewropeaidd fod yn barod i weithio gyda a chydnabod llywodraeth gonsensws cenedlaethol Balestinaidd dros dro ddylai ddod allan o drafodaethau Cairo yn ystod yr wythnosau nesaf - ac i roi arwyddion clir ynglyn â’n bwriad i’r gymuned ryngwladol. Rhaid i ni gefnogi’r broses cymodi ym Mhalestina fel rhan o gyflawni datrysiad hirdymor, ac mae hynny’n golygu sicrhau na wnawn ni ailadrodd camgymeriadau’r gorffennol.
Jill Evans ASE