• Hafan
  • Amdanai
  • Y wasg
  • Areithiau
  • Lluniau
  • Ffilmiau
  • Dolenni i wefannau eraill
  • FUW Meirionydd, Dolgellau
    Ionawr 30ain 2009

    I ddechrau, diolch yn fawr am y gwahoddiad i ddod yma heno i siarad gyda chi. A diolch hefyd am y croeso cynnes a dderbyniais ar fferm Cae Coch y pnawn yma. Piti bod Alun ddim yn gallu dod heno. Fel pob ymweliad fferm rwyf wedi dysgu llawer a mwynhau siarad, ond yn bwysicach gwrando.

    Rydw i wedi bod yn aelod o Senedd Ewrop ers 1999, yn cynrychioli Cymru gyfan fel etholaeth. Rydw i'n aelod o bwyllgorau ar yr amgylchedd, sydd hefyd yn cynnwys diogelwch bwyd a iechyd. Rydw i hefyd ar bwyllgor materion rhanbarthol, merched a chyd-bwyllgor gydag awdurdod Palesteina. Rydw i ar ben hyn yn delio gyda phynciau sydd yn bwysig i Gymru, fel ffermio a bwyd lleol, cronfeydd strwythurol a iaith. Rydw i'n edrych ymlaen at glywed Elin yn siarad Cymraeg yn y Cyngor Amaeth cyn hir, fel wnaeth Alun Ffred yn y Cyngor Diwylliant. Felly mae'r portffolio eang yma yn gwneud fy ngwaith yn ddiddorol iawn.

    Y dyddiau yma wrth gwrs, mae newid hinsawdd yn ffactor sy'n rheoli holl waith y Senedd. Mis Rhagfyr diwethaf, fe fabwysiadwyd pecyn o fesurau sy'n anelu at atal newid hinsawdd a delio gyda'i effeithiau. Mae newid hinsawdd a'r bygythiadau cysylltiedig wedi rhoi pwyslais newydd ar amaethyddiaeth. Mae diogelwch bwyd fel mater o bryder i bawb wedi creu dealltwraieth newydd o amaethyddiaeth.

    Yn fy swydd yn cynrychioli Cymru, rydw i wastad yn croesawu ac yn annog grwpiau a phobl i gysylltu i ddweud eu barn a lobio. Un o'r grwpiau sydd yn lobio yn galed heb fod rhaid i mi ofyn iddynt yw'r ffermwyr! Rwy'n ddiolchgar iawn i chi fel undeb am ddarparu cymaint o wybodaeth sy'n fy ngalluogi i llwyr ddeall oblygiadau y penderfyniadau sydd yn cael eu gwneud ym Mrwsel i'n diwydiant yng Nghymru. Mae hyn mor bwysig.

    Ar hyn o bryd mae'r dirwasgiad economiadd yn cael effaith ar bob un ohonom ni. Ond yn y deg mlynedd yr ydw i wedi bod yn cynrychioli ffermwyr Cymru yn Senedd Ewrop, mae'r diwydiant wedi gwynebu sawl sialens, yn cynnwys traed a'r genau. Y sialens diweddaraf yw'r cynllun tagio defaid yn electroneg. Ynghyd chyd-aelodau o Loegr, yr Alban ac Iwerddon, rydw i yn ymgyrchu'n galed i berswadio y Comisiwn Ewropeaidd i ail feddwl. Rydw i wedi ymweld Bryn Celynnog, sy'n un o ffermydd peilot yng Nghymru ac wedi gweld o lygaid y ffynnon effaith drychinebus tagio'n electroneg. Mae'r system yn anymarferol, costus, ac ar ben hynny ni fyddai'n gwella'r system bresennol o'r gallu i olrhain cynnyrch. Oherwydd y rhesymau hyn, rydw i wedi galw i'r cynllun gael ei wneud yn wirfoddol yn hytrach nag yn orfodol. Cynheliwyd gwrandawiad yr wythnos hyn ym Mrwsel i roi mwy o bwysau ar y Comisiwn i newid y cynlluniau. Rwy'n croesawu mwy o dystiolaeth oddi wrthoch chi am hyn - i gyd yn cryfhau ein hachos.

    Trafodais y gwrthwynebiad i dagio defaid yn electroneg gyda Alun Edwards, yn Cae Coch y prynhawn ma. Trafodom hefyd brechu yn erbyn y Tafod Glas. Mae ef wedi brechu ei dda byw i gyd. Fel y gwyddoch, mae arolwg FUW diweddar yn dangos fod 59% o ffermwyr yn ofni y clefyd er taw ond 21% o ffermwyr sydd wedi brechu. Rydw i'n cytuno gant y cant gyda chyngor Llywodraeth Cynulliad Cymru a Llywydd yr FUW, Gareth Vaughan, i frechu mor fuan phosib. Mae'r Gweinidog dros Faterion Gwledig, Elin Jones, wedi cynghori hefyd i ffermwyr warchod y diwydiant amaethyddol drwy feddwl yn ofalus o le mae nhw yn cael eu hanifeiliaid, yn enwedig i beidio prynu o ardaloedd sydd wedi eu heintio gan glefyd Tafod Glas.

    Rydw i'n cyd-weithio yn agos gyda Elin Jones ar nifer o bynciau i sicrhau y dd?l gorau i ffermwyr Cymru. Mae'n bwysig iawn ein bod yn gweithio fel tim i wneud yn siwr bod llais Cymru yn cael ei chlywed mor uchel phosib. Fel gwlad fach sydd ddim yn aelod annibynnol - ac o ganlyniad heb bleidlais yng Nghyngor y Gweinidogion a heb Gomisiynydd ein hunain - mae'n fwy anodd i ni ddylanwadu ar benderfyniadau na gwledydd bach eraill fel Iwerddon, Luxembourg neu Latvia. Mae gweinidogion Llundain yn siarad ar ein rhan ym Mrwsel, ac yn aml nid yw hynny er lles i Gymru. Gyda Elin wrth y llyw, mae hynny wedi newid.

    An example of how Wales is different to the rest of the United Kingdom is an issue I am currently working on in the Parliament. We are following up the commitment made in the One Wales agreement to seek a derogation from the EU regulations on fallen stock. The ban on on-farm burial has had major financial implications and is questionable in terms of bio-security. An area of particular concern for Wales is the collection of fallen stock from upland sheep farms. Much of the sheep sector in Wales is farmed extensively in upland and less accessible areas and so there are huge problems.

    I am delighted that work done at Bangor University, and part-funded by the Welsh Assembly Government, on bio-digesters shows that a much more effective scheme could be adopted. Now that the Animal By-Products Regulation is being reviewed, we have an opportunity to push for changes. I have submitted amendments to the regulation in both the Agriculture and Environment Committee calling for temporary containment, based on the work of the team at Bangor. Their system, the bioreducer, allows for safe bioreduction pending disposal by rendering or incineration. The introduction of containment increases the flexibility for collection of animal by-products without compromising public health. Trials in Wales have demonstrated that this system works and new trials are planned to examine the feasibility of energy recovery from the bioreduction system. Elin Jones has been in Brussels to discuss these ideas with the Commission and I will be pushing for the amendments to be adopted and taken notice of. Representatives from Bangor are coming to Brussels soon to meet the Commission. The proposals have been accepted by the Agriculture Committee and will be voted on by the Environment Committee in a few weeks. Wales is leading the way on this issue.

    A recent welcome move by the European Union is the School Fruits Scheme. A grant will be available for the supply of local, fresh fruit to school children, which is due to come into force in time for the 2009/10 school year.

    Last year we also had the CAP Health Check, looking at the effectiveness of the reform of the CAP introduced in 2003. I have worked closely with my colleague, Alyn Smith MEP for the Scottish National Party and member of the Agriculture Committee, to ensure the best deal for our farmers. After the elections in June, the focus will be on preparing for this reform in 2013. We have to ensure that our voice is heard as loudly as possible in the debate so that Wales does not lose out. Until we have our own Commissioner and our own vote, we have to use all other means possible to get our message across, such as inviting the European Commission to Wales. I asked the Commission to visit Wales to see evidence from the pilot farms for EID for themselves, and I have received a response from the Health Commissioner, Mrs Vassiliou, informing that they will be doing so next week. We will ensure they get the message that this scheme is ineffective and unworkable.

    Mae gyda ni lawer o waith o'n blaenau. Rydw i'n siwr y gallwn ni gyd-weithio i gynrychioli ffermwyr Cymru. Byddaf yn parhau i ymgyrchu yn erbyn tagio defaid yn electroneg, ac yn cefnogi cyfyngu ar-fferm. Os y caf fy ail-ethol yr haf yma, byddaf yn edrych ymlaen at ddiwygio'r CAP. Trwy weithio fel tim, gallwn sicrhau y gorau i Gymru.

    Jill Evans ASE

    Photo: Jill Evans