• Hafan
  • Amdanai
  • Y wasg
  • Areithiau
  • Lluniau
  • Ffilmiau
  • Dolenni i wefannau eraill
  • FUW Cyfarfod Blynyddol, Llysfasi
    Tachwedd 3ydd 2008

    Diolch yn fawr am y gwahoddiad i ddod i siarad gyda chi. Ac am yr ymweliad pnawn ma i ffarm Glyn a Lyn Jones.. Rydw i wedi bod yn aelod o Senedd Ewrop ers 1999 ac rwy'n cynrychioli Cymru gyfan. Rwy'n rhannu fy amser rhwng Cymru a'r Senedd ym Mrwsel a Strasbourg - teithio nol ac ymlaen bob wythnos. Rydw i'n aelod o bwyllgorau ar yr amgylchedd, materion rhanbarthol, merched a chyd-bwyllgor gyda awdurdod Palesteina. Mae gyda fi portffolio eang iawn sydd yn gwneud fy ngwaith yn ddiddorol ac yn amrywiol iawn.

    Y dyddiau yma wrth gwrs mae newid hinsawdd yn dominyddu'r holl waith yn y Senedd. Erbyn diwedd y flwyddyn bydden ni wedi mabwysiadu pecyn o fesurau sy'n anelu at leihau newid hinsawdd a'r effeithiau ar ein planed. Mae newid hinsawdd a'r bygythiadau cysylltiedig i gyflenwad bwyd a'r angen i brynu bwyd yn fwy lleol wedi gosod amaethyddiaeth mewn cyd-destun newydd. Mae pobl yn sylweddoli pa mor bwysig yw rôl y ffarmwr o ran cefn gwlad, bwyd a bwyta'n iach, yr amgylchedd a'r gymdeithas cyfan. Dyw hynny ddim yn golygu bod gwleidyddion yn pasio'r polisiau gorau i ffermwyr.

    Mae siarad a gweithredu ar ran pobl Cymru ar yr holl faterion sy'n mynd i effeithio ar Gymru yn gallu bod yn anodd iawn, fel y gallwch chi ddychmygu. Un o'r pethau rwyf yn gyson wedi annog grwpiau a phobl yng Nghymru i'w wneud yw lobio fi. Mae hynny'n swnio'n rhyfedd efallai, ond mae e mor bwysig. Un o'r grwpiau sydd yn lobio yn galed heb fod rhaid i mi ofyn iddynt yw'r ffermwyr! Rwy'n ddiolchgar iawn i chi fel undeb am ddarparu cymaint o wybodaeth i fi - gwneud yn siwr fy mod i'n deall oblygiadau y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud ym Mrwsel ar y diwydiant yng Nghymru - yr effaith ar bob un ohonoch chi fel ffermwyr - a'r effaith ar gefn gwlad, yr amgylchedd a'r diwydiant bwyd yng Nghymru. Fel rhywun o'r Rhondda sydd ddim o gefndir amaethyddol, mae hynny wedi helpu fi i wneud g´fy ngwaith yn ymladd dros fuddiannau Cymru ym Mrwsel.

    Rydyn ni i gyd yn wynebu cyfnod anodd o ran yr economi, wrth gwrs. Ond mae ffermwyr Cymru wedi gwynebu un sialens ar ol y llall yn y naw mlynedd rydw i wedi bod yn y Senedd, yn cynnwys traed a'r genau, a nawr y cynllun tagio defaid yn electroneg. Gyda rhai o'm cyd-aelodau o Loegr, yr Alban ac Iwerddon, rydw i wedi cyflwyno datganiad i'r Senedd yn galw ar y Comisiwn a Chyngor y Gweinidogion i ail feddwl. Rwy'n gwybod yn iawn yr effaith trychinebus fyddai EID yn cael. Efallai byddai'n iawn i rhai ffermydd mewn rhai gwledydd gyda tirlun a tywydd gwahanol - ond nid i ffermydd Cymru. Byddai yn anymarferol, yn gostus, ac yn fwy pwysig ni fyddai yn gwella'r system bresennol o'r gallu i olrhain eu cynnyrch. Felly rydyn ni'n gofyn i'r cynllun gael ei wneud yn wirfoddol yn hytrach nag yn orfodol. Trwy hynny, byddai'r gwledydd sydd eisiau gwneud e yn rhydd i'w wneud, ond mewn gwledydd fel Cymru lle byddai'n achosi cymaint o broblemau, ni fydd rhaid ei fabwysiadu eto, ond efallai yn y dyfodol.

    Dwi wedi gweld llawer o newid yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae'r cysylltiad rhyngddon ni fel aelodau seneddol a llywodraeth Cynulliad Cymru wedi gwella'n sylweddol. Mae Elin Jones yn gweithio'n galed iawn i sicrhau ein bod ni'n cael y dd?l gorau i ffermwyr Cymru, ac yn gwneud yn siwr ein bod ni i gyd yn dilyn yr un agenda ym Mrwsel a Strasbourg. Mare'n bwysig iawn ein bod ni'n gweithio fel tim. Fel gwlad fach sydd ddim yn aelod annibynnol - ac o ganlyniad heb bleidlais yng Nghyngor y Gweinidogion a heb Gomisiynydd ein hunain - mae'n fwy anodd i ni ddylanwadu ar benderfyniadau na gwledydd bach eraill fel Iwerddon, Luxembourg neu Latvia. Mae gweinidogion llywodraeth San Steffan yn siarad ar ein rhan ym Mrwsel, ac yn aml nid yw hynny er lles i Gymru.

    An example of how Wales works differently is what I am currently working on in the Parliament. We are following up the commitment made in the One Wales agreement to seek a derogation from the EU regulations on fallen stock. The ban on on-farm burial has major financial implications and is questionable in terms of bio-security. The work done at Bangor University on bio-digesters shows that a much more effective scheme could be adopted. Now that the Animal By-Products Regulation is being reviewed, we have an opportunity to push for changes. I have a meeting with Welsh Assembly officials in Brussels next week to discuss how best we can work together to achieve this.

    Another welcome move is the School Fruits Scheme which has been passed by the Commission and the Agriculture Committee and will go to Parliament in December. This means that a grant will be available for the supply of organic and local, fresh and seasonal fruit to schoolchildren, which is match funded by the Member States.

    This year, we had the "Health Check" of course; to assess the effectiveness of the reform of the CAP introduced in 2003 and which more or less replaced aid for production with the "single payments". The main aspect of the Health Check is the Regulation on Common Rules for Direct Support Schemes, although there are four reports in all. The most important issues are, as you would expect, decoupling, market intervention (such as slaughter premiums), Set Aside, which will be abolished, modulation, cross compliance and dairy quotas.

    I have worked closely with my colleague, Alyn Smith MEP for the Scottish National Party, who is a member of the Agriculture Committee and who submitted twenty amendments in the first reading in Committee. These included reducing the administrative burden of cross compliance - which was adopted, abolishing progressive modulation and ensuring that devolved governments are more involved in decisions on cross compliance, minimum payments and special payments - these were not passed. The EU agriculture ministers are expected to vote on the Health Check at their meeting this month or in December.

    In the next European Parliament, after the elections in June 2009, the focus will be on preparing for the reform of the CAP in 2013. We have to ensure that our voice is heard as loudly as possible in the debate so that Wales does not lose out. Until we have our own Commissioner and our own vote, we have to use all other means possible to get our message across, such as inviting the European Commission to Wales.

    Felly mae gyda ni lawer o waith o'n blaenau - fi fel aelod seneddol a chi fel ffermwyr, y ddau ohonom yn cynrychioli pobl Cymru yn ein ffyrdd gwahanol. trwy gyd-weithio gallen ni sicrhau ein bod ni'n cael y gorau i Gymru.

    Jill Evans ASE

    Photo: Jill Evans