• Hafan
  • Amdanai
  • Y wasg
  • Areithiau
  • Lluniau
  • Ffilmiau
  • Dolenni i wefannau eraill
  • Cynhadledd Plaid Cymru, Aberystwyth, Medi 2008

    Diolch yn fawr unwaith eto eleni am eich cefnogaeth, nid yn unig yn fy ngwaith fel Aelod Senedd Ewrop ond hefyd am fy newis i arwain ein tim o ymgeiswyr yn yr etholiadau Ewropeaidd y flwyddyn nesaf. Byddwch yn gweld llawer mwy ohonof i, Eurig Wyn, Ioan Bellin a Natasha Asghar, ein tim o ymgeiswyr, yn y misoedd i ddod. Rydyn nin edrych ymlaen at ymgyrch cyffrous a llwyddiannus. Mae gennyn ni gyfle euraidd i wneud yn well y flwyddyn nesaf nag erioed or blaen.

    Y rheswm cynta am hynny yw ein record o amddiffyn buddiannau Cymru yn Ewrop a symud Cymru ymlaen.

    Y tystiolaeth gorau am hynny ywr ffaith bod yr iaith Gymraeg yn cael ei chydnabod nawr fel iaith cyd-swyddogol yn yr Undeb Ewropeaidd. Ar ol blynyddoedd o ymgyrchu, or diwedd bydd gennyn ni yr hawl i ddefnyddior Gymraeg. Nid yw yn statws swyddogol llawn ni fydd hynnyn digwydd nes bod Cymru ei hun yn aelod llawn. Ond mae yn golygu bydd ein iaith yn cael ei chlywed a'i defnyddio yn Ewrop. Bu cefnogaeth mawr am hyn gan fudiadau, colegau ac ysgolion trwy Gymru sydd wedi ysgrifennu ataf ac at Llywydd Senedd Ewrop yn datgan hynny. Ac fe ges I gyfarfod gyd Llywydd Senedd Ewrop wythnos diwethaf i esbonio iddo fe pa mor bwysig oedd hyn i ni yng Nghymru ac i esbonio pa mor bwysig yw'r iaith Gymraeg i Ewrop.

    Maen adlewyrchu ein tyfiant fel cenedl ar y llwyfan Ewropeaidd diolch i lywodraeth Cymrun Un. Rydw i wedi cael y pleser personol a gwleidyddol mwyaf o groesawu gweinidogion Plaid Cymru i Frwsel pan maen nhwn cynrychioli Cymru mewn cyfarfodydd. Ac maen nhw YN cynrychioli Cymru. Dydyn nhw ddim yn dilyn lein San Steffan. Maen nhwn edrych ar yr hyn sydd angen ar Gymru ei hun.

    Ar ffaith fy mod in gallu cydweithio hefyd gyda ein partneriaid yn yr SNP, wrth iddynt symud yr Alban ymlaen tuag at annibynniaeth, wedi gwneud y flwyddyn diwethaf yn un cyffrous iawn i ni i gyd. Rydyn ni wedi rhannu yn eu llwyddiant wnaethon ni ddangos hynny yn glir ir aelod seneddol John Mason ddoe. Hoffwn hefyd groesawu Fiona Hyslop, Gweinidog Addysg yr SNP i'r gynhadledd.

    Mae ein partneriaid eraill yng Nghynghrair Rydd Ewrop hefyd wedi cael eu llwyddiannau ac mae gyda ni aelod newydd on grwp, sef Lazlo Tokes o Rwmania, cyn esgob a oedd wedi chwarae rhan allweddol yn yr wrthryfel heddychlon a welodd Ceaucescu yn colli grym. Mae ein grwp ni yn y senedd o flaen y gad yn ymladd dros heddwch a hawliau dynol a hawliau pobl iw hunaniaeth diwylliannol a ieithyddol eu hunain. Rydyn nin cadwr materion yma ar yr agenda Ewropeaidd.

    Ac mae angen gwneud hynny. Yn yr wythnosau diwethaf rydyn ni wedi gweld tensiwn yn codi eto rhwng Rwsia ar Unol Daleithiau, sydd yn atgoffa ni y rhai ohonom syn gallu cofio - dyddiau du y Rhyfel Oer yn yr wythdegau. Mae NATO heddiw yn trio ehangu ir dwyrain gyda chefnogaeth brwd llywodraeth Prydain wrth gwrs ac mae George Bush yn cynnig helpu moderneiddio peiriant milwrol Gwlad Pwyl yn gyfnewid am gael lleoli taflegrau ar ei tir. Mae gosod cyfleuster radar yn y Weriniaeth Siec hefyd yn gam gan yr Unol Daleithiau yn y ras arfau newydd yma. Ym mis Gorffennaf bygythiodd Rwsia y byddain ymateb yn filwrol. Mae Ewrop yn cael ei ddefnyddio fel PAWN yn strategaeth milwrol byd eang yr Unol Daleithiau. Yn lle canolbwyntio ar gryfhaur Cenhedloedd Unedig ochr yn ochr a datblygu strategaeth diogelwch Ewropeaidd a fyddain hybu diarfogi a chyd-weithredu, mae Prydain yn prynu arfau niwcliar Trident newydd ei hunain.

    Rwyn falch bod cymaint on aelodau ni wedi cymryd rhan yn y protestiadau yn erbyn Trident. Ac rwyn llongyfarch ein ffrindiau yn yr Alban sydd wedi dweud bod nhw ddim am gadw Trident yno yn Faslane. Mae llywodraeth yr SNP wedi sefydlu Gweithgor ar Alban heb Arfau Niwcliar i edrych ar yr effaith economaidd o gael gwared a Trident, yn ogystal ag edrych ar ddatblygu swyddi mewn diwydiannau amgen. Dwi eisiau i ni sefydlu Sefydliad Heddwch yng Nghymru i edrych ar faterion tebyg.

    Pan rydych chin ethol pobl i gynrychioli Cymru maen rhaid iddyn nhw siarad ar ran Cymru gyda llais Cymru. Rydyn nin gwybod taw dim ond cynrychiolwyr Plaid Cymru syn gwneud hynny. Wrth gwrs byddwn ni yn dweud hynny. Ond edrychwch ar y tystiolaeth. Yn y pedair blynedd diwethaf yr ail dymor rydw I wedi bod yn Senedd Ewrop ar y prif faterion syn dod lan yn y senedd mae Llafur ar Toriaid wedi pleidleisio gydaii gilydd yn dilyn agenda Prydain, nid Cymru. Galla i rhoi sawl enghraifft, fel gwasanaethau post. Yng Nghymru maer Blaid Lafur yn honni eu bod nhwn ymgyrchu i gadw swyddfeydd post lleol ar agor. Ond ar y lefel Ewropeaidd maen nhw wedi cefnogi deddfwriaeth i agor gwasanaethau post ir farchnad ac iw preifateiddio, tra bod nin ceisio sicrhau gwasanaeth i bawb, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig a diogelu hawliau gweithwyr post.

    Ar yr iaith Gymraeg y cam hanesyddol yma o gael statws yn Ewrop beth oedd eu hymateb? Aelodau Senedd Ewrop Llafur ar Toriaid o Gymru yn ei wrthwynebu ar sail faint oedd en mynd i gostio. Rydyn nin talu am bob iaith arall yn Ewrop pam maer Gymraeg yn llai haeddiannol? Ydych chin gallu dychmygu gwrthwynebu statws swyddogol ich iaith eich hunan? Dyna beth wnaethon nhw. Dyw hynny ddim yn cynrychioli Cymru yn Ewrop ir gwrthwyneb, maen tanseilio ein cenedl yn Ewrop.

    On a number of issues - the EU budget, food labelling, chemicals, reducing waste and so on and so on - Labour and the Tories have united to ensure that the big political groups and often the big member states get their way. That's why things must change. That's why things ARE changing in Europe. And we have one of the small countries - Ireland - to thank for that. As an independent member state, Ireland had a vote on the Lisbon Treaty. Without Ireland's agreement it can't be adopted. And of course the people of Ireland voted "no" - they got a referendum, of course. We didn't, despite Labour's promises. Now the future of the whole European project is in the hands of one small country.

    Nothing shows the power of being a member state in Europe more than Irelands ability to stop the whole European project in its tracks. The population of one small country could prevent Europe moving in a direction which they feared was not in Irelands interests. Now there will be offers and promises made to bring Ireland back on board. Small states are not necessarily smarter than big states in this union of 27 members, but by acting cleverly they can be influential. It doesnt mean imposing your views on others but it does mean having a plan for the future of your nation and being able to lead others.

    So what would an independent Wales look like in the European Union? Well compared with nil votes in the Council of Ministers which we have now, Wales would have six or seven votes just less than Denmark, Finland and Ireland and slightly more that Luxembourg, Latvia and Estonia; in the European Parliament instead of our current four members, we would have between ten and twelve members the same as Lithuania and more than Latvia and Slovenia. We would have a judge in the European Court of Justice and a Commissioner. And, like Ireland and the other member states, we would have a veto on treaties - not that we would want to block progress in Europe but we want the people of Wales to have a say and be listened to.

    Equality is part of our new agenda - in your communities, in Wales, in Europe, and in the world. We want to celebrate our success in the Olympics as Wales. And we should join the Scottish campaign to get independent entries for Wales, Scotland, Northern Ireland and England. I'm sure we wouldn't get "nul points" there either! We have a wealth of talent in Wales. Why not show it to a wider audience and increase Wales' profile. We should take every opportunity to do that.

    Things have to change. Europe has gone astray. The European Union has to become more open and accountable. We have to bring an end to the ridiculous spectacle of Parliaments travelling circus between Brussels and Strasbourg which costs over 160 million a year and creates 20,000 tons of CO2 emissions thats the equivalent of 13,000 return flights between Brussels and New York. Its the only parliament in the world that moves back and fore between two countries for its meetings and its time it stayed still. Actually this month we did stay in Brussels, but not because wed persuaded government leaders to change the policy but because the ceiling of the chamber in Strasbourg collapsed. For the moment the building we have in Strasbourg - used only thirteen weeks every year - is out of commission - and that's not a pun!

    We are facing many problems. At the moment our society and our way of life is on a crash course with climate change. But it's not too late to change course. We can't turn back the clock but we can stop and think and take action. We need to redress the balance between the basic needs of people and the power of big business. Our basic needs are simple - a clean environment, decent paid jobs, good education and health care, peace and justice. It's not too much to ask and it's not impossible to achieve. We can do it. We have to be imaginative, we have to be bold, we have to be determined - but we can do it.

    As Ieuan told us yesterday, there are many things we want to do that we are told we can't do. But when we try we find we can. People are struggling to cope with rising fuel, food and energy prices. We have an economic crisis, a housing crisis, and a climate crisis. We cannot insulate Wales from the effects of the global economic downturn, but we can respond positively to the challenges and take action in the short term. We have to weather the storm together.

    We have moved Wales forward in Europe. We are moving Wales forward in Europe. And we will move Wales even further forward. But to do that we need your support. We have a fantastic team of candidates; we have the commitment, the enthusiasm, but most of all the policies and the political will to transform our nation and its relationship with the other nations of the European Union. We have had representatives here from Flanders, from Catalunya and from Scotland. We work side by side with them in solidarity and with a common aim. We want democracy and equality. Our new Welsh Agenda sees a bright, prosperous future for Wales in Europe with the European Union playing a vital role in our national journey. The time is now. Come with us.

    Jill Evans ASE

    Photo: Jill Evans