Mae Plaid Cymru wedi dweud erioed bod Cymru yn gymuned o gymunedau. Ein cymunedau sydd yn rhoi cymeriad ac enaid a chryfder i ni fel cenedl. Fel rhywun sy’n cynrychioli Cymru gyfan yn Senedd Ewrop rwy’n gwybod hynny yn dda.
Beth yw hanfod cymuned? Cartrefi, gwaith, cyfleusterau fel siopau a swyddfeydd post, ysgolion, gwasanaethau iechyd, trafnidiaeth. Ond yn fwy na dim – pobl. Nawr, wrth deithio o gwmpas Cymru, rydw i’n cwrdd a phobl sy’n brwydro i gadw gwasanaethau er mwyn achub eu cymunedau. Pobl sy’n yn ymgyrchu i gadw ysgolion ac ysbytai ar agor; i gael tai a gwaith lleol ar gyfer eu plant; i atal tomenni sbwriel; i gael buddsoddiad i gryfhau yr economi lleol. Mae pobl sy’n byw yng nghefn gwlad, yn y cymoedd, yn y trefi ac yn y dinasoedd yn brwydro yn erbyn polisiau’r llywodraeth Llafur sydd eisiau canoli popeth – a chanoli gwasanaethau yn fwy na dim. O dan gynlluniau canoli Llafur mae swyddfeydd post, ysgolion, llysoedd ynadon, swyddfeydd trethi, gorsafoedd ambiwlans, gorsafoedd tan … a llawer mwy wedi eu cymryd i ffwrdd.
Mae pobl y cymoedd a phobl cefn gwlad yn cael yr un profiad – dirywiad. Os ydych chi’n byw o fewn tafliad carreg i Gaerdydd neu ochr arall y wlad, yr un stori.
Mae’n ddarlun negyddol iawn. Mae Llafur yn dweud ein bod ni’n siarad Cymru lawr. Na, dydn ni ddim. Rydyn ni’n siarad eu llywodraeth nhw lawr. Mae ‘na fyd o wahaniaeth. Mae miliynau o bunnau wedi dod i Gymru achos bod gyda ni rhai o’r cymunedau tlotaf yn Ewrop i gyd. Ar ol chwe mlynedd beth ddigwyddodd? Roedd lefel y tlodi wedi cynyddu! Pwy sy’n gyfrifol am hynny? Llafur. Ac maen nhw’n haeddu pob beirniadaeth. Mae pobl Cymru wedi cael digon o’r un hen Llafur blinedig.
Pwrpas llywodraeth yw sicrhau gwasanaethau angenrheidiol o safon da i bobl. Sicrhau cymunedau llwyddiannus. Galluogi pobl i gyrraedd eu potensial llawn. Dyna pam mae ffocws Plaid Cymru ar ein cymunedau. A dyna beth fydd ffocws llywodraeth Plaid Cymru hefyd. Mae gyda ni weledigaeth i Gymru gyfan. Gweledigaeth sydd wedi’i greu trwy weithio gyda phobl trwy Gymru a chael ein ysbrydoli gan bobl Cymru. Rydyn ni’n gweld tu hwnt i waliau’r Cynulliad ym Mae Caerdydd.
Doedd datganoli ddim yn golygu datganoli grym i Gaerdydd ond datganoli grym i’n pobl.
Mae aelodau Plaid Cymru yn siarad ar ran eu hetholwyr – nhw yw llais pobl yn y Cynulliad – nid llais y Cynulliad yng Nghymru.
Rydyn ni’n sefyll ochr yn ochr a’r bobl sydd yn ymgyrchu i gadw gwasanaethau lleol. Mae gennym yr un blaenoriaethau. Ac mewn llywodraeth byddewn yn gweithio law y llaw gyda’r bobl hynny i ddatblygu ein gweledigaeth, i wireddu ein polisiau, i wneud gwahaniaeth.
Mae’n bryd i wneud gwahaniaeth! Ac nid ni yn unig sy’n dweud hynny. Mae pobl mewn cymunedau ar hyd a lled y wlad hefyd yn dweud hyn. Maen nhw wedi blino ar y troelli neu’r ‘spin’, wedi blino ar yr addewidion a dorrwyd, wedi blino ar hen Lafur - a Llafur Newydd.
Rwyf wedi gweld y siom a’r tor-calon a ddaw wrth gau ysgol. Pan gaeodd Ysgol Babanod Blaenclydach yn y Rhondda, fe grëwyd bwlch enfawr ar ei hôl yn y gymuned. Gadawyd y rhieni a’r plant, a roddodd bopeth mewn i ymgyrchu er mwyn cadw’r ysgol a’r ganolfan ieuenctid ar agor yn hynod siomedig a’n methu’n lan a deall pam na wnaeth y llywodraeth wrando. Ceir effaith ofnadwy o fawr ar fywydau pobl pan mae’r Blaid Lafur yn gwneud y penderfyniadau hyn. Nid adeilad yn unig oedd hi ond cymuned yn ei hun - cymuned hapus a oedd yn ffynnu. Nawr mae hi wedi mynd ac fe werthwyd yr ysgol gan gyngor Rhondda Cynon Taf mewn arwerthiant a gynhaliwyd mewn gwesty pedair seren yn Llundain, ynghyd â llawer o dir arall y Rhondda er mwyn gwneud mwy o elw na thrwy ei werthu yn lleol am brisiau lleol.
Ac wrth gwrs, ffatri Burberry yn Nhreorci sydd ar fin cau gyda cholled o dros 300 o swyddi. Bu ymgyrch anferth, ond bydd y
swyddi yn mynd i Asia lle y gallant wneuthuro am ffracsiwn o’r gost. Rydyn ni wedi gweld hyn yn digwydd gymaint o weithiau a
bydd yn parhau i ddigwydd o dan y llywodraeth hon. Rhoddir yr argraff i ni rywsut nad oes gan y llywodraeth Lafur unrhyw
reolaeth dros ddigwyddiadau fel hyn. Gwelwn ddagrau ffug nifer o wleidyddion y Blaid Lafur. Ond pam nad oes gyda ni’r
rheolau mewn grym sydd yn amddiffyn gweithwyr fel sydd gyda nhw mewn rhannau eraill o Ewrop - cyfreithiau fyddai’n rhwystro
cwmnïau rhag cyhoeddi yn sydyn eu bod am symud allan? Oherwydd bod y llywodraeth Lafur wedi eu gwanhau hyd at y pwynt mai
rhith ymgynghoriad yn unig a geir gyda’r gweithwyr - dyw hynny ddim yn ymgynghoriad iawn o gwbl. Pam nad oes gyda ni
bolisïau cyfrifoldeb cymdeithasol sydd yn ymrwymo cwmnïau’n gyfreithiol a’u gwneud yn gyfrifol am y cymunedau maen nhw’n
gweithio yn eu plith? Oherwydd bod y llywodraeth Lafur yn ei herbyn. Maen nhw wedi hyrwyddo a chefnogi globaleiddio a’r
cyfan a ddaw gydag ef. Dydyn nhw ddim wedi amddiffyn ein cymunedau.
Rwy wedi byw yn y Rhondda drwy fy mywyd ac wedi gweld gyda’n llygaid fy hun yr hyn a wna’r gwaedlif o swyddi a gwasanaethau o’r cymoedd i’n cymunedau. Pan sefydlwyd y Cynulliad Cenedlaethol, faswn i byth wedi credu y bydden i erioed yn clywed cymaint o bobl yn dweud nad ydyn nhw’ n teimlo eu bod yn cyfrif, nad ydyn nhw’n bwysig a’u bod wedi cael eu hanghofio. Does dim syndod fod cymaint yn dweud nad yw’r Cynulliad wedi gwneud gwahaniaeth iddyn nhw. Wrth gwrs, nid y Cynulliad sydd ar fai ond y llywodraeth sydd yn ei redeg. Yr un llywodraeth ag sydd gyda ni yn Llundain - a gyda chymorth y Torïaid - a’n cymerodd i ryfel yn Irac ac sydd yn gwario biliynau o bunnoedd ar arfau niwclear newydd. Beth bynnag fyddan nhw’n ei ddweud, maen nhw’n dangos eu blaenoriaethau drwy eu gweithredoedd.
Mae gyda ni flaenoriaethau gwahanol. Ac rydym yn dangos hyn drwy gyfrwng ein gweithredoedd a’n polisïau. Rwy’n credu bydd y gair “Cyffrous” yn cael ei ddefnyddio drwy gydol y gynhadledd hon. Mae’n adlewyrchu sut rydym yn teimlo am yr her sy’n ein hwynebu yn ystod y misoedd a’r blynyddoedd i ddod. Gallwn fod yn hyderus ein bod yn dweud yr hyn mae pobl Cymru wedi dweud wrthym ni oherwydd ein bod wedi gwrando arnyn nhw ac yn parhau i wrando arnyn nhw. Mae Plaid Cymru yn blaid i’r gymuned, nid plaid Bae Caerdydd. Gweithiwn drosoch chi, eich cymuned ac i Gymru.
Rydym yn awyddus i bobl deimlo cyffro ynglyn â’r llywodraeth newydd yn y Cynulliad. Hoffwn greu Cymru newydd, hyderus, byrlymog lle mae pob person yn bwysig a lle gall pob un person wneud gwahaniaeth. Oherwydd mae’n bryd.