• Hafan
  • Amdanai
  • Y wasg
  • Areithiau
  • Lluniau
  • Ffilmiau
  • Dolenni i wefannau eraill
  • Gwersi Chernobyl
    Ebrill 25ain 2006

    Mae’r atgof sydd gen i o glywed y newyddion ugain mlynedd yn ôl bod adweithydd niwclear yn Rwsia wedi ffrwydro yn fyw iawn o hyd. Yr un mor fyw yw fy atgof o syllu gydag arswyd ar y golygfeydd anobeithiol ar y teledu o weithwyr argyfwng yn hedfan dros yr adweithydd llosg i ollwng tywod a choncrit mewn ymgais i ddiffodd y tân.

    Ond does dim i’w gymharu gyda fy mhrofiad o ymweld â Chernobyl y penwythnos diwethaf a gweld y difrod parhaus sydd yn cael ei achosi i’r amgylchedd ac i’r bobl.

    A hithau’n ugain mlynedd ers y trychineb niwclear gwaethaf a welodd y byd erioed, mae dros 350 o ffermydd o hyd yng Nghymru o dan gyfyngiadau oherwydd y llygriad ymbelydrol a gludwyd gyda’r gwynt o Chernobyl. Ceir cyfraddau uwch o lawer o gancr yn yr ardaloedd a effeithiwyd waethaf yng Ngogledd yr Iwcrain a de Belarws. Ac am nifer o flynyddoedd i ddod bydd cylchfa waharddedig 35 milltir o ddiamedr o amgylch Chernobyl.

    Gyda chaniatâd a gafwyd yn flaenorol ac wedi mynd trwy ddau fan gwylio fe’m gadawyd i mewn i’r gylchfa yma.

    Fe’m syfrdanwyd gan faint yr ardal lle na fydd yn ddiogel i unrhyw un fyw am gannoedd o flynyddoedd. Mae’r ardal yma o 962 milltir sgwâr yn cynnwys fforestydd, pentrefi a threfi mawrion yn ogystal â safle’r adweithydd ei hun. Ni welsom braidd unrhyw berson neu gerbyd arall wrth yrru o amgylch y gylchfa. Gwelais weddillion tai yn y fforest gyda choed yn tyfu drwy’r to a chelfi o’r ardd allan o hyd wedi iddyn nhw gael eu gadael ar frys ugain mlynedd yn ôl.

    ProfIad oeraidd yw cerdded o amgylch rhith o dref heb drafnidiaeth na phobl ynddi. Lle felly yw Pripyat. Roedd yn dref fodern a godwyd i gartrefu gweithwyr Chernobyl a’u teuluoedd a hwn oedd un o’r llefydd cyntaf i gael eu gwacáu ar ôl i bobl sylweddoli hyd a lled y ddamwain. Yr unig bobl sydd yno bellach yw’r gwyddonwyr a swyddogion y llywodraeth sy’n arolygu’r llygredd ac yn teithio yno o’r tu fas.

    Er ei bod yn anghyfreithlon i fyw yn yr ardal hon mae rhai pobl wedi dychwelyd yno, gan ddewis mentro’u hiechyd yn hytrach na bod oddi cartref yn barhaol. Mi gwrddais ag un o’r rheiny, ffermwr yn ei saith-degau. Roedd ei bentref wedi’i wacáu rai dyddiau ar ôl y ddamwain a symudwyd y bobl i ‘r brifddinas, Cief. Roedd wedi cael cynnig ty mewn man arall ond roedd y tir mor sâl nes iddo benderfynu mynd adref gyda’i deulu. Mae tua phum cant o bobl wedi dychwelyd adref o blith y 130,000 o bobl a symudwyd o’u cartrefi yn yr Iwcrain.

    Wrth sefyll o flaen Uned 4 y pwerdy rown i’n methu dweud gair. Fe ganodd y peiriant geigr sydd gan ein tywysydd swyddogol yn gyflym gan ddangos ymbelydredd amryw gannoedd o weithiau’n uwch na’r normal. Roedd gweddillion yr adweithydd wedi’u cuddio’n frysiog â chragen goncrit, ac mae honno bellach yn gollwng. Dim ond am ugain munud y cawson ni aros yno. Mae’r ymbelydredd a ryddhawyd yn y ffrwydrad yn cyfateb i ddau gant o’r bomiau a ollyngwyd ar Hiroshima a Nagasaki.

    Wedi’u gadael mewn cae ger yr orsaf ei hun mae olion rhydlyd yr helicoptrau, injanau tân a’r peiriannau eraill a ddefnyddiwyd yn ystod y dyddiau ar ôl y drychineb. Ychydig funudau yr arhoson ni yno a chael ein rhybuddio i beidio â mynd yn rhy agos at yr ymbelydredd. Datblygodd dau gant tri deg saith o weithwyr argyfwng afiechyd ymbelydredd llym a bu farw 47. Mae’n atgof oeraidd o aberth dynol y gwasanaethau argyfwng ac o gost y drychineb hon mewn bywydau dynion.

    Mae ’na gwestiynau heb eu hateb o hyd ynghylch trychineb Chernobyl a’i chanlyniadau ond mae’na un wers y gallwn ei dysgu oddi wrthi. Dyw ynni niwcliar ddim yn ddiogel ac mae’r arbrawf niwcliar wedi methu. Ar ôl f’ymweliad, rwy’n fwy penderfynol nag erioed i ddal ati i ymgyrchu dros Gymru ddi-niwcliar.

    Jill Evans ASE

    Photo: Jill Evans