• Hafan
  • Amdanai
  • Y wasg
  • Areithiau
  • Lluniau
  • Ffilmiau
  • Dolenni i wefannau eraill
  • Anerchiad Angladd Gwynfor Evans, Aberystwyth
    Ebrill 27ain 2005

    Fel cymaint o bobl eraill, roedd Gwynfor Evans yn ysbrydoliaeth i mi. Mae'n hawdd defnyddio geiriau gwag am heddwch a chyfiawnder. Ond i Gwynfor dyna oedd yn ei yrru - yn cael ei adlewyrchu ym mhob peth a wni. Rydw i'n falch dros ben i fod wedi gweithio gydag e ym Mhlaid Cymru ac yn y mudiad heddwch. Iddo fe roedd cyflawni rhyddid a chyfiawnder i Gymru yn mynd law yn llaw gyda gweithio dros heddwch a chyfiawnder i bobl ar draws y byd.

    Y tro cyntaf cwrddais i a Gwynfor oedd yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Mon 1983. Roeddwn i yn aelod ifanc or Blaid yn y Rhondda ac yn weithgar yn CND. Ces i wahoddiad i siarad mewn cyfarfod ym Mhabell y Cymdeithasau ar heddwch a diarfogi niwclear. Y prif siaradwr oedd Gwynfor Evans. Hwn oedd y tro cynta erioed i mi siarad yn gyhoeddus - ac yn Gymraeg, fy ail iaith - a dyma fi'n rhannu llwyfan gyda un om arwyr yn y Blaid ar mudiad heddwch. Roeddwn in gyffrous iawn ond hefyd yn llawn arswyd. Ond byddaf yn ddiolchgar i Gwynfor am byth am yr hyder rhoddodd e i mi y diwrnod hwnnw. Roedd e mor hael a mor gefnogol. Es i mewn i'r cyfarfod yn teimlo allan o fy nyfnder a des i allan yn credu y gallwn i wir wneud gwahaniaeth.

    Fe wnaeth Gwynfor wahaniaeth - gwahaniaeth enfawr. O'r tridegau a'r pedwardegau pan oedd yn ysgrifennydd Heddychwyr Cymru ac yn chwarae rl blaenllaw yn y protestiadau yn erbyn cynllun y llywodraeth i symud chwe deg o deuluoedd o Fynydd Epynt i ddefnyddior tir ar gyfer maes tanio, pan oedd yn gwrthwynebu meddiannu deg mil o acrau o dir gan y fyddin ger Abergeirw, i llynedd pan gododd ei lais yn erbyn ymosodiad a meddiant anghyfreithlon Irac.

    Chwaraeodd e rhan bwysig iawn yn CND Cymru - nid yn unig pan oedd yn ffasiynol i wneud - ond hefyd pan roedd diarfogi yn isel ar yr agenda a CND yn cael bron dim sylw. Nid oedd e byth yn defnyddio gwleidyddiaeth plaid i greu rhwyg Ir gwrthwyneb. Gydai sgil i ddod a phobl at ei gilydd cyfrannodd yn sylweddol at gryfhaur mudiad a chreu'r mudiad heddwch gweithgar cymunedol sydd gyda ni yng Nghymru heddiw.

    Siaradai Gwynfor gydag angerdd dros heddwch a diarfogi a'i bwysigrwydd i bob rhan o'n bywydau. Er enghraifft pan roedd en siarad ar ddatblygu gwledig yn San Steffan un tro, cyfeiriodd at gost llongau tanfor niwclear ar fasnach arfau arian roedd y llywodraeth yn fodlon ei wario - i gymharu a chost buddsoddi yng nghefn gwlad Cymru. A nawr drigain mlynedd ers bomio Hiroshima a Nagasaki ac ar drothwy'r gynhadledd ar y Cytundeb Atal Ymlediad Niwclear yn Efrog Newydd mae ei eiriau yn fwy perthnasol nac erioed.

    Ond yn ogystal a'n ysbrydoli ni gyda'i areithiau a'i lyfrau doedd arno ddim ofn gweithredu chwaith. Siaradodd yn gryf yn erbyn rhyfel Fietnam yn y Senedd. Ym 1967 galwodd ar yr Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Rhyngwladol i anfon tm meddygol i Hanoi i drin y plant a oedd wedi dioddef anafiadau erchyll yn ystod y rhyfel. Siaradodd am y chwarter miliwn o blant a laddwyd yn y rhyfel - y peth mwyaf arswydus a glywodd erioed. Ac ym 1969 fe gynigiodd ei hun fel 'tarian dynol' yn erbyn y bomiau yn Hanoi - gan deithio gyda grwp bychan o heddychwyr i Pnom Penh lle arhosodd am bythefnos yn codi ymwybyddiaeth am yr hyn oedd yn digwydd. Fe wrthodwyd mynediad iddynt i Fietnam, a roedd rhaid iddyn nhw troi yn l. Ond roedd y weithred dewr ac egwyddorol yma yn nodweddiadol o ddyn na allai sefyll a gwylio tra fo cannoedd ar filoedd o bobl yn cael eu lladd a niweidio.

    Gwelodd tebygrwydd y sefyllfa gydag Irac. Yn y ddwy wlad roedd canran uchel o blant - y rhai sy'n dioddef fwyaf mewn unrhyw ryfel.

    Roedd Gwynfor yn gennad gwych dros Gymru ac yn ffrind i nifer o bleidiau cenedlaetholgar a rhanbarthol yn Ewrop. Ymgyrchodd yn gyson dros hawliau iaith ir Llydwyr a'r Basgiaid ac eraill gan ennill parch rhyngwladol. Gwelais hynny drosof fy hun. Pan es i im cyfarfod cyntaf o Gynghrair Rhydd Ewrop ym Mrwsel - y mudiad o chwaer bleidiau Plaid Cymru yn Ewrop - ces i groeso cynnes am fod pawb yn cymryd yn ganiataol taw merch Gwynfor oeddwn i - ddim yn sylweddoli bod na fwy nag un Evans yng Nghymru!

    Mae Gwynfor wedi gosod safonau uchel i ni gyd. Mae gennym l ei droed i ddilyn. Ac mae gyda ni i gyd ddyled enfawr iddo am ei waith diflino dros heddwch a chyfiawnder. Diolch Gwynfor, am garu Cymru ond hefyd am garur byd.

    Jill Evans ASE, Is Lywydd Plaid Cymru
    Cadeirydd CND Cymru

    Photo: Jill Evans