Ar ôl y drosedd yn erbyn dynoliaeth ar yr unfed ar ddeg o Fedi, 2001, pan laddwyd bron tair mil o bobl ddiniwed o flaen ein llygaid ar y teledu - lluniau ryn ni wedi gweld drosodd a throsodd yn yr wythnosau diwethaf - dywedodd pawb fod y byd wedi newid. Wel, efallai, ond ddim cymaint â hynny.
Mae 30,000 o bobl yn marw o newyn bob dydd tra bod 'na ddigon o adnoddau nid yn unig i fwydo ond hefyd i ddarparu cartref, addysg a gwaith i bob person ar ein planed. Tlodi ac anghyfiawnder yw ein gelynion mwyaf o hyd. Collwyd y cyfle i ddechrau ennill y frwydr yn eu herbyn yn Uwchgynhadledd y Byd ar Ddatblygu Cynaladwy yn Johannesburg ar ddechrau'r mis yma. Gyda'r ewyllys wleidyddol, gallai arweinwyr y byd fod wedi dod i'r afael â'r argyfwng sy'n bygwth miliynau o bobl a dechrau cau'r bwlch rhwng y gwledydd tlawd a'r gwledydd cyfoethog. Ond nid ewyllys wleidyddol oedd yr unig beth oedd yn absennol - roedd rhai o'r arweinwyr eu hunain yn rhy brysur i ddod, gan gynnwys George W Bush.
Dangosodd digwyddiadau'r wythnosau canlynol pa mor anghywir yw blaenoriaethau'r rheini, fel Arlywydd yr Unol Daleithiau, a rwystrodd cynnydd yn Johannesburg.
Mae'r wlad fwyaf pwerus yn y byd wedi bod yn rhoi ymdrech ac adnoddau aruthrol i mewn i ddechrau rhyfel. Mae e - a'i ffrind gorau Tony Blair - wedi bod yn teithio'r byd yn ceisio mobileiddio gwledydd eraill i'w gefnogi. Meddyliwch pa mor wahanol fyddai canlyniad yr Uwchgynhadledd gyda'r fath ymrwymiad i ymladd tlodi ac anghyfiawnder.
Ydy hyn yn dangos bod y byd wedi newid? Na. Yr un hen stori.
Roedd fy ymweliad i â threfedigaeth Alexandra yn Johannesburg yn feicrocosm o'r hyn sy'n digwydd yn fyd-eang. Roedd yr Uwchgynhadledd yn Sandton, ardal sydd fel maesdref i'r crach mewn unrhyw ddinas gyfoethog yn y byd. Yn llythrennol o fewn tafliad carreg, roedd un o'r llefydd tlotaf rwy' i wedi gweld erioed - y math o dlodi sydd, diolch byth, yn hollol estron i ni yng Nghymru. Roedd miloedd o bobl yn byw ar ben ei gilydd mewn cutiau bregus heb ddðr glan neu lanweithdra. Roedd y gwrthgyferbyniad bron yn ormod i'w gredu.
Ym mis Mai eleni fe es i i Balesteina gyda grðp o wleidyddion yn cynnwys Eurig Wyn a Geraint Davies. Fe welais i dlodi a dioddefaint sydd wedi fy nghyffwrdd i ac sy wedi newid fy mywyd am byth. Ces i fy ngwylltio gan yr amddifadiad a'r anghyfiawnder.
Ond fe ddysgais i bwysigrwydd solidariti. Fe gwrddais i â phobl oedd yn byw o dan yr amodau mwya' caled. Fe ges i groeso cynnes iawn. Wnaethon nhw ddim gofyn am gymorth (materol). Dim ond gofyn i fi fynd adre a dweud wrth bawb beth oedd yn mynd ymlaen - beth oedd yn digwydd iddyn nhw.
Rwy'n teimlo'n freintiedig fy mod i'n gallu gwneud hyn i gyd yn enw Plaid Cymru: plaid ryngwladol sydd ag ymrwymiad angerddol i greu byd tecach. Rwy'n falch ein bod ni wedi cadw'n ffydd a'n hamcanion a'n hegwyddorion; ac wedi codi llais yn erbyn anghyfiawnder, heb ofni dweud y gwir hyd yn oed o dan amgylchiadau anodd.
Yn yr un modd a wnaeth Gwynfor Evans wneud safiad yn erbyn y rhyfel yn Fietnam, ryn ni'n siarad heddiw ar ran y mwyafrif helaeth o bobl yng Nghymru sydd yn gwrthwynebu rhyfel yn erbyn Irac.
Ryn ni'n dweud na i broject Bush a Blair dros ryfel yn erbyn Irac. Beth bynnag yw'r broblem, all lladd dynion, menywod a phlant diniwed fyth bod yn ateb.
Byddai mynd i ryfel yn erbyn Irac yn drychineb a achosai mwy o ansefydlogrwydd yn y Dwyrain Canol. Wrth gwrs, mae Saddam Hussein yn ddyn peryglus sydd wedi erlid pobl Irac - roen ni'n dweud hyn yn ystod yr wythdegau tra'r oedd y Llywodraeth Brydeinig yn gwerthu arfau iddo. Fe hoffem ni i gyd i weld llywodraeth ddemocrataidd yn Irac, ond ni fydd rhagor o dywallt gwaed yn cyflawni hyn.
Does 'na ddim rheswm dros fynd i ryfel, does 'na ddim cyfiawnhad dros gael rhyfel a does na ddim cefnogaeth i ryfel. Na, Tony Blair. Nid yn ein henw ni.
Ryn ni'n credu mewn rheolaeth drwy gyfraith ryngwladol. Does neb yn or-uwch na'r gyfraith honno. Ni all yr ymgyrch yn erbyn terfysgaeth oresgyn democratiaeth a hawliau dynol; oherwydd mae parch tuag at hawliau dynol yn un o'r arfau mwyaf pwysig er mwyn trechu terfysgaeth. Mae gan y Llys Troseddol Rhyngwladol a sefydlwyd eleni yn Yr Hâg, y potensial i fod y mecanwaith hawliau dynol pwysicaf ers sawl blwyddyn. Dylai neb, gan gynnwys yr Unol Daleithiau, fod yn rhydd o'i awdurdod.
Rydym yn rhan o fudiad byd-eang sydd yn ymgyrchu dros heddwch ac yn erbyn gormes ac anghyfiawnder. Ganwyd y mudiad hwnnw allan o ac mewn gwrthwynebiad i, y "rhyfel yn erbyn terfysgaeth" honedig sydd mor ddinistriol. Rwyf wedi bod yn ymwneud â sefydlu Rhwydwaith Ewropeaidd ar gyfer Heddwch a Hawliau Dynol, sef mudiad rhyngwladol er mwyn dod â grwpiau heddwch ar draws y byd ynghþd. Ac ym mis Ionawr eleni cynhaliwyd ail gyfarfod Fforwm Cymdeithasol y Byd yn Porto Allegre. Mae'r fforwm yn gweithio dros globaleiddio sydd wedi'i ganoli ar bobl. Daeth nifer o fudiadau ynghþd yn ystod y Gynhadledd Frig yn Johannesburg i fynnu cynaladwyedd iawn; ac mae'r mudiad heddwch yng Nghymru yn cymryd rhan amlwg ar y llwyfan ryngwladol. Mae'na lawer o bethau positif yn digwydd sydd yn gwireddu slogan Fforwm Cymdeithasol y Byd, "Mae Byd Arall yn Bosibl".
Bu'r flwyddyn ddiwethaf yn un trawmatig. Bygythiodd y gwrthdaro rhwng India a Phacistan i'n harwain at ddibyn rhyfel niwclear. Arweiniodd y rhyfel yn erbyn Affganistan i ddymchwel y Taliban. Ond er fod llywodraeth newydd yn Affganistan, ydy pethau wedi newid mewn gwirionedd? Beth am y reolaeth sy'n parhau i aros gyda'r penaethiaid rhyfelgar? Beth am y bomio a'r ymdrechion i ladd yr Arlywydd? Beth am y cannoedd o garcharorion sydd wedi cael eu gadael i farw mewn lorïau? Ac mae'r camdriniaethau yn erbyn menywod yn parhau. Ai dyna pam mae'r sylw wedi cael ei ddargyfeirio tuag at Irac - fel na fyddwn yn gofyn cwestiynau?
Wel, ryn ni ym Mhlaid Cymru yn gofyn cwestiynau. Mae gwahaniaeth 'da ni. Ryn ni yn ymgyrchu. Fel Aelod o Senedd Ewrop rwy' wedi gallu siarad ar ran Plaid Cymru ar lefel ryngwladol a chymryd neges ein Plaid i bobl ar draws y byd. Ryn ni'n ymarfer polisi rhyng-genedlaetholgar Gymreig: yn adlewyrchu gwerthoedd pobl Cymru ac yn gadael i bawb fod yn ymwybodol o'n presenoldeb - yn siarad ar ran Cymru yn y byd. Mae sylw'n cael ei wneud ohono ac mae'n cael ei werthfawrogi.
Rwy'n ddiolchgar iawn i'n cyfeillion o Israel a Phalesteina, ac o Cwrdistan a Chiwba am ddod i'n cynhadledd er mwyn sôn am eu sefyllfa i ni ac am beth allwn ni wneud yn rhagor i helpu gyrraedd y nod o heddwch. Gallaf addo i chi yn y gynhadledd na fyddwch yn clywed geiriau da ac yna dim byd oddi wrthym ar ôl i chi fynd adref. Mae'n haelodau yn gefnogwyr angerddol a gweithgar o'ch achosion a byddwn yn cymryd pa gamau bynnag sydd o fewn ein nerth i helpu i ddatrys problemau.
Felly does dim llawer wedi newid yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Ond mae'n rhaid cael newid. Fe allwn wneud gwahaniaeth. Ryn ni'n wlad fach ar lwyfan y byd sydd wedi cael ei rhwystro rhag cyrraedd ei llawn botensial oherwydd nad þn ni wedi cael ein llywodraeth ein hunain. Ond ryn ni'n ennill grym a dylanwad cynyddol. Mae angen i ni weithio gyda phobl eraill gan y byddai o les i ni yn ogystal â nhw er mwyn cyflawni cyfiawnder. Fe welwn ddyfodol Cymru o fewn y byd. Ryn ni'n gweithio dros heddwch. A heb gyfiawnder ni ellir fyth cael heddwch.
Jill Evans ASE