• Hafan
  • Amdanai
  • Y wasg
  • Areithiau
  • Lluniau
  • Ffilmiau
  • Dolenni i wefannau eraill
  • Llun: Jill Evans, Parc Gelligaled, Ystrad Rhondda

    AMDANAI

    Ganwyd Jill Evans yn y Rhondda ym 1959 ac yno mae hi'n byw o hyd. Mynychodd Jill y brifysgol yn Aberystwyth ac yna gweithiodd fel Cynorthwydd Ymchwil yng nghyn Politecnic Cymru lle enillodd ei gradd M.Phil.

    Gweithiodd i Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched yng Nghymru am chwe mlynedd cyn cymryd swydd fel Trefnydd Rhanbarthol Cymru ar gyfer CHILD - Rhwydwaith Cenedlaethol Cefnogaeth Anffrwythlondeb.

    Roedd Jill Evans yn gynghorydd am saith mlynedd - ar Gynghorau Bwrdeistref Rhondda a Sir Morgannwg Ganol ac yna Cyngor Sir a Bwrdeistref Rhondda Cynon Taf.

    Fe'i hetholwyd yn Aelod eiledol Plaid Cymru ar Bwyllgor y Rhanbarthau ym 1993 a gwasanaethu arno am bedair blynedd, ac roedd hi'n cynrychioli'r blaid yng Nghynghrair Rhydd Ewrop, yn cydweithio gyda chwaer bleidiau Plaid Cymru ar draws y cyfandir.

    Roedd Jill Evans yn Gadeirydd y blaid rhwng 1994-96. Ym Mehefin 1999 etholwyd Jill Evans a'i chyd-ymgeisydd Eurig Wyn yn ASEau cyntaf Plaid Cymru.

    Ailetholwyd Jill i Senedd Ewrop yn 2009 ac mae hi'n aelod o grwp y Gwyrddiaid / Cynghrair Rhydd Ewrop - y pedwerydd grwp o ran maint yn y Senedd.

    Jill yw Llywydd EFA a phrif Is-Lywydd grwp y Gwyrddion/EFA yn Senedd Ewrop.

    Mae hi'n aelod dirprwyol o'r Dirprwyiaeth dros berthynas â Chyngor Deddfwriaethol Palesteina

    Mae hi'n aelod o'r Pwyllgor Amgylchedd, Iechyd Cyhoeddus a Diogelwch Bwyd a'r Ddirprwyaeth Perthynas gyda Irac. Mae hi'n dirprwyo ar y Pwyllgor Amaeth.

    Mae hi'n Lywydd Plaid Cymru, yn lefarydd y blaid ar faterion Ewropeaidd a Rhyngwladol ac yn gadeirydd CND Cymru.

    Cwm Rhondda: Jill's blog
    greens_efa.org
    Stop Climate Change News
    BreathingEarth.net
    Faslane 365
    Beat the CO2 Monster game
    Grocery Store Wars
    Join The Food Revolution