Ymchwil yn dangos mai rhwng Llundain a Chymru ceir yr Anghydraddoldeb gwaethaf yn Ewrop ac mae’n gwaethygu
Bydd gadael yr UE yn dinistrio datblygiad rhanbarthol - Jill Evans ASE
24 Ionawr 2019

Yn ôl ymchwil newydd, ceir yr anghydraddoldeb rhanbarthol gwaethaf yn Ewrop rhwng Llundain a Chymru.

Yn ogystal â hynny, fe ganfu’r ymchwil gan CPMR (Cynhadledd Y Rhanbarthau Morol Ymylol) y byddai gan y Deyrnas Gyfunol hawl i €13 biliwn (dros £11 biliwn) o ariannu datblygu rhanbarthol ar gyfer cylch 2021-2027. Rhoddir y nawdd yma i ranbarthau tlotach mewn ymgais i hybu eu perfformiad economaidd a’u datblygiad. Mae’r cylch ariannu cyfredol yn rhedeg o 2014-2020, a disgwylir i Gymru fod wedi derbyn £2.06 biliwn mewn cymorth o ‘r UE. Yn ôl ymchwil CPMR bydd Cymru yn colli tua £2.5 biliwn dros y cylch nesaf fydd yn rhedeg o 2021-2027.

Dywedodd Aelod Seneddol Ewropeaidd Plaid Cymru, Jill Evans, bod yr ymchwil yn dangos “nad oes modd datglymu’r cyswllt a geir rhwng Brexit ac anghydraddoldeb cynyddol”.

Dengys y ffigurau syfrdanol diweddaraf bod gan ranbarth cyfoethocaf y DG, sef canol Llundain, Gynnyrch Domestig Crynswth (CDC) sydd yn 614% o gymharu â chyfartaledd yr UE, o gymharu â rhanbarth tlotaf y DG, sef Gorllewin Cymru a’r Cymoedd, sydd â CDC o 68% o gyfartaledd yr UE. Golyga hyn fod yna wahaniaeth o 546% yng nghyfartaleddau CDC cymharol rhwng y ddau ranbarth.

Gwelwyd o’r ymgyrch bod lefelau o wahaniaethau rhanbarthol o fewn y DG yn gwaethygu, gyda Chymru ar waelod y tabl. Byddai Dwyrain Cymru, a ystyriwyd gynt i fod yn ‘rhanbarth mwy datblygedig’ yn cael ei israddio nawr i ‘ardal trawsnewid’.

Dywedodd ASE Plaid Cymru, Jill Evans:

"Dylai’r ffigurau hyn fod yn destun cywilydd i Lywodraeth San Steffan.

“Does dim modd datglymu’r cyswllt a geir rhwng Brexit ac anghydraddoldeb cynyddol. Does dim modd dadlau gyda’r ffeithiau.

“Mae’r ffigurau hyn yn cadarnhau yn yr un modd a wnaeth y ddegawd ddiwethaf o lymder, taw nid y sawl a greodd yr anrhefn hon fydd yn gorfod ysgwyddo’r baich, ond y cymunedau sydd â’r lleiaf o allu i ymdopi.

“Os ydym o ddifrif ynglyn â dod â’r anghydraddoldeb dychrynllyd hyn i ben, yna gadael yr Undeb Ewropeaidd yw’r peth olaf dylai Cymru ei wneud. Byddai colli ariannu hanfodol yr UE yn drychineb i Gymru a does gen i ddim hyder bydd San Steffan yn rhoi cymorth tebyg i ni..

"Mae anghydraddoldeb yn y DG yn uwch nac yn unrhyw aelod wladwriaeth yn yr UE. Tra bo Llundain yn gorboethi, mae economi Cymru yn gwanhau.

"Ddydd ar ôl dydd, daw effeithiau ofnadwy Brexit ar Gymru yn fwy eglur a chaiff celwyddau ymgyrchwyr dros Brexit eu dinoethi. Mae Pleidlais y Bobl, gyda’r opsiwn o aros yn yr UE yn hanfodol er lles ein democratiaeth, cymdeithas ac economy.”

Wrth holi gweinidog Llywodraeth Cymru dros faterion gwledig yn ystod sesiwn yn y siambr heddiw, dywedodd gweinidog yr wrthblaid dros yr economi Rhun ap Iorwerth AC:

“Mae Cymru’n wynebu colli allan ar symiau anferth o arian rhanbarthol yr UE. Yn ôl amcangyfrif sydd yn deillio o ymchwil a wnaed, pe bai’r DG yn aros yn yr UE, byddai’n derbyn €13bn o ariannu rhanbarthol rhwng 2021-27 - sef 22% o gynnydd o gymharu â 2014-20. Ydy’r Gweinidog yn cytuno bod hyn yn atgyfnerthu’r ddadl o blaid cynnal Pleidlais y bobl er mwyn dadlau achos ein diwydiannau gwledig?”

Diwedd.

Nodiadau

Gelllir dod o hyd i’r ymchwil llawn yma.

Llun: Jill Evans